Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn arddangos yr ystod eang o yrfaoedd a chyfleoedd swyddi sydd ar gael gyda’r awdurdod mewn Ffair Swyddi a gynhelir ym mis Medi.
Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher, 14 Medi rhwng 3pm a 7pm yn Swyddfeydd Caledfryn, Ffordd y Ffair, Dinbych (ger Morrisons).
Bydd cyfle i gwrdd â gweithwyr a rheolwyr presennol, dysgu popeth am swyddi gweigion cyn gwneud cais, darganfod y cynlluniau buddion gweithwyr hael ac archwilio amrywiaeth o swyddi gwag presennol a rhai sydd ar ddod. Bydd gwybodaeth hefyd ar gael am gynlluniau gweithio hyblyg a hybrid, polisïau gweithio sy’n ystyriol o deuluoedd, a chymorth lles gweithwyr.
Bydd y Ffair Swyddi yn canolbwyntio ar swyddi rheng flaen o fewn y Cyngor, gyda chontractau parhaol a chyfnod penodol ar gael, ac ystod o oriau gwaith gan gynnwys cyfleoedd amser llawn, rhan amser ac yn ystod y tymor yn unig.
Bydd adrannau ar draws y Cyngor yn mynychu, gan ddarparu gwybodaeth am gymysgedd amrywiol o swyddi gwag, gan gynnwys:
- Glanhawyr
- Cynorthwywyr Arlwyo
- Cogyddion
- Gweithwyr Gofal
- Gweithwyr Cymdeithasol (Plant ac Oedolion)
- Gyrwyr
- Gweithredwyr Casglu Gwastraff a Sbwriel
- Swyddogion Gweinyddol
- Gwasanaethau cwsmer
- Cynnal a Chadw Eiddo: Plastrwyr, Plymwyr, Seiri
- Cynorthwywyr Addysgu
- Staff Cefnogi Ysgol
Bydd gwybodaeth hefyd am ystod o gyfleoedd gwirfoddoli Cyngor Sir Ddinbych.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldeb: “Mae cyfleoedd gwaith wedi codi o ganlyniad i dwf mewn rhai timau, yn ogystal â chyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu, felly mae’n gyfle delfrydol i ddod. a gweld ni i glywed am y cyfleoedd sydd gennym ar draws y sir.
“Mae’r Ffair Swyddi am ddim i’w mynychu, ac mae lle i barcio ar y safle. Ni fu erioed amser gwell i ddarganfod pam y dylech weithio i ni”.
Mae holl swyddi'r Cyngor yn cael eu hysbysebu ar y wefan: www.sirddinbych.gov.uk/swyddi, yn ogystal â thudalennau Swyddi Cyngor Sir Ddinbych ar Facebook.