Mae Cyngor Sir Dinbych wedi dyfarnu'r cytundeb i reoli Marchnad y Frenhines yn y Rhyl i Midlands Events (Rhyl) Ltd.
Gan weithio mewn partneriaeth â'r Cyngor, bydd Midlands Events (Rhyl) Ltd yn chwarae rhan annatod yn rheoli’r gweithrediadau o ddydd i ddydd y Farchnad, a fydd yn agor yn yr haf. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys gweithio ar y cyd â'r gwerthwyr, llwyfannu a hyrwyddo digwyddiadau yn y gofod digwyddiadau mawr, a gofalu am weithrediadau dyddiol y Farchnad.
Mae adeiladau Marchnad y Frenhines wedi bod yn dirnod eiconig yng nghanol y Rhyl ers 1902, ac wedi darparu amrywiaeth o ddefnyddiau i'r dref drwy gydol y blynyddoedd. Mae'r datblygiad newydd yn cynnwys 16 o unedau bwyd a manwerthu unigol, bar dwy ochr, a gofod digwyddiadau mawr sy'n gallu cynnal digwyddiadau, marchnadoedd neu seddi ychwanegol.
Yn gynharach yn y flwyddyn, dechreuwyd ar waith gosod y tu mewn i’r adeilad, gan gynnwys gwaith trydanol hanfodol, gosod ardaloedd eistedd a dodrefn a goleuadau, yn ogystal ag amrywiaeth o waith hanfodol arall.
Bydd y Cyngor nawr yn gweithio gyda Midlands Events (Rhyl) Ltd ar yr ymdrechion cydweithredol a fydd yn arwain at agor y cyfleuster yn yr haf. Cyhoeddir dyddiad agor yn fuan.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Bydd y prosiect newydd hwn yn drawsnewidiol i’r dref, a bydd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer adfywio trwy greu swyddi a chynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â’r Rhyl. Bydd Marchnad y Frenhines yn dod â chynigion bwyd a manwerthu modern o ansawdd uchel, i ganol y Rhyl, gyda mynediad gwych i’r prom a’r traeth.
Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Midlands Events (Rhyl) Ltd ar y prosiect hwn eisoes, gyda rôl gynghori, yn helpu gyda chyfarparu’r adeilad, a gweithio gyda’r gwerthwyr a fydd yn gweithio o’r lleoliad eiconig. Felly maent yn gyfarwydd â’r lleoliad a’r gymuned a fydd yn ei ddefnyddio.
Roedd yn bwysig i ni ein bod wedi ailddatblygu’r lleoliad eiconig hwn, a oedd yn anniogel yn ei gyflwr blaenorol. Mae llawer o waith caled wedi’i wneud i gadw ysbryd yr adeilad blaenorol, fel y fynedfa wreiddiol sy’n agor at Stryd Sussex.
Y gobaith yw y bydd y Farchnad hon yn dod yn ganolfan gymunedol, gan gynnig amrywiaeth o leoedd bwyd a manwerthu, yn ogystal â man digwyddiadau mawr a fydd wedi’i gyfarparu i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau. Mae’r cyfleuster hwn yn gynnig gwych, nid yn unig i'r Rhyl, ond hefyd i Sir Ddinbych a Gogledd Cymru. Rydym yn hynod gyffrous i'r lleoliad hwn agor yr haf hwn”.
Meddai Andrew Burnett, Cyfarwyddwr Midlands Events (Rhyl) Ltd:
“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Dinbych ar y prosiect hwn.
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed, ynghyd â’r Cyngor, i greu cyfleuster pwrpasol a fydd yn darparu lleoliad newydd a chyffrous ar gyfer y Rhyl. Rydym wedi llunio cymysgedd da o fanwerthwyr, gyda phwyslais cryf ar ansawdd a gwasanaeth, a fydd yn ategu ac yn gweithio’n dda gyda’r rhaglen adloniant yr ydym yn gweithio i’w harddangos yn y Neuadd Ddigwyddiadau, yn ogystal â’r ardaloedd awyr agored.
Mae’n bwysig i ni ein bod yn ffitio i mewn gyda’r dref ac yn dod yn ased ac yn gyrchfan i bawb. Allwn ni ddim aros i’r Farchnad agor yn yr haf, rydym yn gyffrous iawn i ddechrau arni.”