Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Llyfr Dogni

Y tymor hwn, gall ymwelwyr â Charchar Rhuthun ddysgu mwy am bennod ryfeddol yn hanes y Carchar, diolch i’r Gell Arfau ar ei newydd wedd.

Mae’r gell, yn y cyn garchar ar arddull eiconig Pentonville, wedi’i chreu’n benodol i adrodd straeon yr adeilad hanesyddol adeg y rhyfel.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Carchar Rhuthun (oedd wedi cau fel carchar yn 1916) ei ddefnyddio fel ffatri arfau, a chafodd ei ddisgrifio yn y wasg ar y pryd fel “Ffatri Ryfel Ryfeddaf Prydain.”

Cafodd y safle ei brydlesu i gwmni o Lerpwl, Lang Pen gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 1942. Symudodd y cwmni ei beiriannau trymion o’r ddinas, oedd yn dioddef cyrchoedd awyr rheolaidd, i gynhyrchu ei gasys bwledi a darnau o arfau yn y dref farchnad fwy diogel yng Ngogledd Cymru.

Ynghyd â’r peiriannau, daeth merched o Lerpwl i hyfforddi a gweithio ochr yn ochr â merched lleol o Ruthun. Gyda’i gilydd, bu iddynt chwarae rhan hanfodol yn ymdrechion y rhyfel a chyfeiriwyd atynt fel The Munitionettes.

Mae’r Gell Arfau ar ei newydd wedd yn dod â’u straeon adeg y rhyfel yn fyw gydag arteffactau hanesyddol, lluniau’n cyfleu’r Carchar ar y pryd fel canolfan gynhyrchu ac atgofion personol grymus.

Ymhlith yr eitemau sy’n cael eu harddangos mae’r llyfrau dogni gwreiddiol, masgiau nwy, cerdyn cyflogau gan gwmni Lang Pen a waled ledr a roddwyd i rai oedd yn dychwelyd o’r rhyfel o Ruthun.

Gall ymwelwyr hefyd weld diagramau o waith cynhyrchu’r arfau ac atgofion am dîm pêl-droed merched y ffatri oedd yn chwarae gemau arddangos yn erbyn Merched y Tir i godi arian at yr Awyrlu Brenhinol.

Meddai Philippa Jones, Rheolwr Gweithredu a Datblygu Safle Treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun:

“Mae’r gell Arfau ar ei newydd wedd yn ailadrodd rôl Carchar Rhuthun adeg y rhyfel o’r newydd, ynghyd â’r bobl oedd yn gweithio yma, gan sicrhau bod eu straeon, sy’n rhan bwysig o hanes lleol, yn parhau i gael eu rhannu â chenedlaethau'r dyfodol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae’r carchar yn safle sydd o werth hanesyddol arwyddocaol ac mae agor y gell Arfau newydd yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddysgu mwy am y carchar mewn cyfnod hanesyddol gwahanol.

“Bydd nifer o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal yn y Carchar, ac yn ein safleoedd treftadaeth eraill ledled y Sir dros y misoedd nesaf, a byddwn yn annog pawb i gymryd mantais o beth sydd i’w gynnig”.

Mae’r Gell Arfau’n rhan o’r profiad ymwelwyr arferol yng Ngharchar Rhuthun, sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul (ar gau bob dydd Mawrth), 10.30am – 4.30pm (mynediad olaf 3.30pm) hyd at 30 Medi. Cynlluniwch eich ymweliad yn https://www.denbighshire.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol/amgueddfeydd-a-thai-hanesyddol.aspx a dewch o hyd i’r darn unigryw hwn o hanes.


Cyhoeddwyd ar: 14 Mai 2025