Bydd gwaith i reoli clefyd coed ynn yn dechrau ym Mharc Gwledig Loggerheads yr wythnos hon.
Mae clefyd coed ynn, clefyd hynod ddinistriol i’r rhywogaeth Fraxinus, yn lledaenu trwy Ogledd Cymru a Sir Ddinbych.
Mae coed ynn brodorol y DU yn benodol yn gyffredin ar draws tirwedd Sir Ddinbych ac yn anffodus, mae llawer o’r coed hyn, gan gynnwys rhai yn Loggerheads, wedi’u heintio gan ffwng o’r enw Hymenoscyphus fraxineus, sy’n achosi clefyyd coed ynn.
Nid oes unrhyw driniaeth na dull hysbys ar gyfer atal trosglwyddiad y ffwng hwn yn yr aer, felly mae angen dulliau amgen i ymdrin â’i effaith.
Fel y mae enw cyffredin clefyd coed ynn yn ei awgrymu (ash dieback), mae coed sydd wedi’u heintio’n marw. Mae symptomau corfforol yn arwain at ddail yn gwywo a niwed i risgl. Mae nifer uchel o goed ynn yn marw ar ôl cael eu heintio.
Bydd y parc yn parhau ar agor ddydd Iau 19 a dydd Gwener 20, fodd bynnag bydd y ffordd ar gyfer y maes parcio gorlif ar gau dros dro yn ystod y diwrnod ac efallai y bydd rhywfaint o amhariad o ran cael mynediad at brif ardal y parc, tra bydd gwaith yn cael ei wneud ar goed o gwmpas y fynedfa a’r llwybr pren rhwng y ddau faes parcio.
Bydd y llwybr pren sy’n rhedeg ar hyd rhan uchaf y parc ger Cadolear ar gau a defnyddir goleuadau traffig ddydd Gwener ar yr A494 ar hyd ffin y parc i reoli rhywfaint ar y gwaith, bydd peth amhariad i gerddwyr sy’n defnyddio’r palmant.
Bydd llawer mwy o waith coed yn cael ei wneud rhwng nawr a diwedd mis Mawrth o amgylch y Parc Gwledig ac rydym yn argymell bod ymwelwyr yn dilyn arwyddion ac yn parchu’r dargyfeiriadau neu’r llwybrau sydd ar gau, er eu diogelwch eu hunain.
Gall ymwelwyr hefyd ffonio’r ganolfan ymwelwyr am ragor o wybodaeth cyn iddynt ddechrau ar eu taith gerdded, sydd ar agor 10am – 4pm, ni fydd unrhyw waith yn cael ei wneud ar benwythnosau.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein ffocws wedi bod ar gynnal arolygon o goed ynn mewn ardaloedd lle gall coed sydd wedi’u heintio beri risg i bobl yn ardal y parc. Cynhaliwyd asesiadau risg hefyd er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n synhwyrol ac ein bod ond yn cael gwared ar y coed a all achosi niwed neu ddifrod yn y pen draw.”
“Hoffem ddiolch i’r rhai sy’n defnyddio’r parc ar hyn o bryd am eu hamynedd wrth i ni gyflawni’r gwaith pwysig hwn.”
Wrth i’r rhaglen cwympo coed angenrheidiol ddatblygu, bydd mwy o goed o rywogaethau amgen yn cael eu plannu, mewn lleoliadau addas er mwyn lleihau’r effaith ar dirwedd a bioamrywiaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am glefyd coed ynn, ewch i wefan Cyngor Sir Ddinbych trwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/iechyd-yr-amgylchedd/coed-gwrychoedd-a-glaswellt/clefyd-coed-ynn/clefyd-coed-ynn.aspx