Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi sicrhau £71,000 o arian ar gyfer prosiect cymunedol Pengwern.
Bydd yr arian Loteri Dyfodol Gwledig, sy’n cael ei gyfateb gan y Cyngor, yn canolbwyntio ar gael effaith gadarnhaol yng nghymuned Llangollen drwy gynyddu’r cyfleoedd i ennill sgiliau a gwella dyheadau, darparu lle ychwanegol mewn canolfan gymuned yn ogystal ag adnoddau i gyflawni gweithgareddau a gwasanaethau i gefnogi pobl.
Bydd yr arian yn caniatáu i’r Cyngor, drwy gydweithio â Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych, Cyfeillion Pengwern a Severn Wye, i greu tair uned unigryw er mwyn cynnig man cyfarfod cyfrinachol a gweithdy cymunedol i fynd i’r afael â thlodi gwledig, unigrwydd a lles cyffredinol y gymuned.
Bydd Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych yn cyflogi cydlynydd rhan amser i’r ganolfan er mwyn cynyddu’r defnydd o’r ganolfan i gynnig gwasanaethau i fynd i’r afael ag unigrwydd, gwella mynediad at wasanaethau a gweithgareddau, datblygu sgiliau a darparu hyfforddiant.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau'r Cyngor: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r arian hwn, yn ogystal â cynnig arian cyfatebol, fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned.
“Hoffwn ddiolch i aelodau lleol, y gymuned a phob asiantaeth partner fu’n gweithio gyda ni i helpu i sicrhau’r arian hwn.
“Bydd y lle cymunedol newydd yn rhoi man i drigolion gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau er mwyn gwella lles cyffredinol y gymuned.
“Mae cefnogi cymunedau cysylltiol yn flaenoriaeth i’r Cyngor o dan y Cynllun Corfforaethol ac mae prosiectau fel hwn yn ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw.”
Gweithiodd Tim Tai Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth agos gyda Phartneriaeth De Sir Ddinbych, Cyfeillion Pengwern a Severn Wye ar ddatblygu’r prosiect hwn.