Disgwylir i ddisgyblion yn Sir Ddinbych ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb ar ôl gwyliau'r Nadolig ddydd Llun, Ionawr 11eg.
Yn dilyn arweiniad gan Lywodraeth Cymru a thrafodaethau gydag ysgolion, mae Cyngor Sir Dinbych yn hysbysu rhieni y bydd dysgu o bell ar waith yn ystod wythnos gyntaf y tymor newydd, yr wythnos sy'n dechrau ar Ionawr y 4ydd.
Mae gan bob ysgol yn Sir Ddinbych ddiwrnod Hyfforddiant mewn swydd a drefnwyd ymlaen llaw ar Ionawr y 4ydd ac mae gan lawer o ysgolion ail ddiwrnod Hyfforddiant ar Ionawr y 5ed.
Fodd bynnag, mewn amgylchiadau lle mae rheswm iechyd a diogelwch cyhoeddus clir, gall ysgolion unigol barhau â dysgu o bell am un wythnos ychwanegol.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: “Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd achosion o coronafirws yn cynyddu dros gyfnod y Nadolig.
“Er gwaethaf mai isel ydy achosion a gadarnhawyd sy’n gysylltiedig ag ysgolion Sir Ddinbych maent yn cynyddu ac rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddilyn arweiniad Llywodraeth Cymru i ysgolion ddarparu dysgu o bell ar ddechrau’r tymor, gyda’r disgwyliad y bydd dysgu wyneb yn wyneb yn ailddechrau. Dydd Llun, Ionawr yr 11eg.
“Rhaid i unrhyw blant sy’n profi’n bositif am coronafirws neu y gofynnir iddynt hunan-ynysu drwy’r system Profi Olrhain Diogelu gwblhau eu cyfnod hunan-ynysu cyn dychwelyd i’r ysgol.
“Rydym yn cymryd unrhyw newid i addysg disgyblion o ddifri ac nid ydym wedi cymryd y penderfyniad hwn yn ysgafn. Rydym wedi gweithredu rwan i ddarparu eglurder i rieni a gwarcheidwaid mor gynnar â phosibl ynghyd â chaniatáu inni reoli'r dychweliad i addysg ar ôl cyfnod y Nadolig mor ddiogel â phosibl.”
“Hoffwn unwaith eto ddiolch i ddisgyblion, rhieni a staff am eu cefnogaeth yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn dymor hynod o heriol i'n holl ysgolion a'r cymunedau maen nhw'n eu cefnogi ac yn gweithio ynddynt.”
Bydd dysgu wyneb yn wyneb yn cael ei gynnig i blant gweithwyr allweddol a disgyblion bregus a bydd ysgolion yn hysbysu rhieni a gwarcheidwaid gyda'u trefniadau unigol.