Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi sicrhau cyllid grant gwerth £57,400 gan Swyddfa Llywodraeth Y DU i Gerbydau Di-Allyriadau gyda chefnogaeth Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, i gefnogi’r gwaith o gyflenwi’r Cynllun Peilot Gwefru Cerbydau Trydanol i’r Cyhoedd.

Bydd y cynllun peilot yn darparu pwyntiau gwefru cyflym mewn wyth maes parcio ceir cyhoeddus ar draws Sir Ddinbych i’w defnyddio gan y cyhoedd.

Mae’r lleoliadau’n cynnwys:

Maes Parcio Ward y Ffatri

Dinbych

2 x 22 cilowat (KW) newid pwyntiau gwefru bob yn ail (AC) (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio’r Grîn Bowlio

Llanelwy

1 x 22kW AC (gallu gwefru 2 cerbyd)

Maes Parcio Heol y Farchnad

Llangollen

2 x 22 kW AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio’r Pafiliwn

Llangollen

2 x 22 kW AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio Cae Ddôl

Rhuthun

2 x 7Kw AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio’r Ganolfan Grefft

Rhuthun

2 x 22 kW AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio Fern Ave

Prestatyn

2 x 7Kw AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio Ffordd Morley

Y Rhyl,

2 x 22kW AC (gallu gwefru 4 cerbyd)

Mae lleoliadau wedi’u dewis yn defnyddio ystod o feini prawf yn cynnwys lleoliad a hygyrchedd a chynnwys cymysgedd o lwybrau allweddol a meysydd parcio yn agos i eiddo preswyl heb fynediad i barcio oddi ar y ffordd.

Y nod yw cynnig posibiliadau i bobl newid i gerbydau trydan lle nad oedd mynediad i gyfleuster gwefru yn y gorffennol.

Mae’r prosiect yn rhan o gamau gweithredu’r Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 a mabwysiadu’r Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol yn 2021.

Mae mentrau cerbydau trydan eraill yn rhan o’r gwaith er mwyn cyrraedd nod y cyngor o fod yn gyngor di-garbon net erbyn 2030.

Mae prosiectau sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd yn cynnwys ehangu ar isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan y Cyngor a chynyddu’r nifer o gerbydau trydan sydd yn ei Fflyd i gyflenwi gwasanaethau’r Cyngor.

Mae’r Cyngor hefyd wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i weithio ar brosiect sy’n cael ei beilota i annog cwmnïau tacsi i newid i ddefnyddio cerbydau trydan.

Cynhelir y broses caffael ar gyfer y pwyntiau gwefru yn yr hydref gyda’r bwriad o’i gosod nhw a chael nhw’n gweithredu erbyn Gwanwyn 2022.

Meddai’r Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant ac Amgylchedd y Cyngor: “Mae’n wych i’r Cyngor gael bod yn rhan o brosiect mor bwysig sy’n chwarae rôl hanfodol o fewn ein nod i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol.

“Mae cerbydau trydan yn rhan fawr o’n dyfodol felly dyma gam pwysig i’r sir.

“Mi fyddan nhw’n creu amgylchiadau iachach ac yn gyfleus i’r cymunedau hynny ac i’r ymwelwyr sy’n dewis defnyddio cerbydau trydan.

“Mae’r pwyntiau gwefru yn rhoi mantais wirioneddol i Sir Ddinbych gyfan ond rydym yn gobeithio fod rhai o’r lleoliadau hyn o fudd yn benodol i aelwydydd cyfagos heb gyfleusterau gwefru oddi ar y ffordd. Mi fyddan nhw’n darparu data defnyddiol i ddadansoddi ehangiad posib yn y dyfodol ar gyfer Gwefru CT.

Mae’r pwyntiau gwefru cerbydau trydan i’w cael ar ddau safle Hamdden Sir Ddinbych yn cynnwys Pafiliwn Llangollen a Chanolfan Grefft Rhuthun.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Fel cwmni rydym wedi ymrwymo i wella’r amgylchedd i’n preswylwyr sy’n cyfrannu at well Iechyd a Lles. Rydym yn falch iawn o gael cefnogi’r Cyngor a Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol a gafodd ei ddatgan yn 2019, a thu hwnt i’r prosiect hwn byddwn yn parhau i weithio gyda’r Cyngor ar nifer o brosiectau tuag at yr agenda newid hinsawdd.”

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â strategaeth ar newid hinsawdd a newid ecolegol ewch i - www.denbighshire.gov.uk/en/environmental-health/climate-and-ecological-change/climate-and-ecological-change.aspx


Cyhoeddwyd ar: 21 Hydref 2021