Mae staff Parc Busnes Llanelwy wedi helpu i osod sylfaen ar gyfer gwarchodfa natur newydd ar eu stepen drws.
Teithiodd staff Qioptic i lawr y ffordd yn ddiweddar i weld Datblygiad Gwarchodfa Natur Green Gates, ac i roi help llaw wrth greu ardaloedd o goetir newydd ar y safle.
Mae hyn yn rhan o’r gwaith parhaus i greu gwarchodfa natur 70 erw yn Green Gates, Llanelwy, i gefnogi bioamrywiaeth leol.
Mae’r coed wedi cael eu tyfu o hadau lleol i’r sir ym mhlanhigfa goed y Cyngor yn Green Gates.
Mae’r rhywogaethau a fydd yn cael eu rhoi yn y warchodfa natur newydd yn cynnwys y dderwen, gwernen helygen a’r fedwen arian, ynghyd ag ychydig o goed cerddin a phisgwydd prin.
Ymunodd deg gwirfoddolwr o Qioptic ag eraill o Sir Ddinbych yn gweithio, ynghyd â chymuned o wirfoddolwyr o’r blanhigfa goed i blannu dros 500 o goed.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydym yn falch iawn bod aelodau staff lleol o Qioptic wedi helpu i blannu gwreiddiau a fydd yn ased gwych ar gyfer bwyd gwyllt lleol, ar stepen eu drws gwaith. Mae’n wych cael gymaint o gefnogaeth leol ar gyfer y safle hwn, a fydd yn gwneud gymaint ar gyfer gwarchod ein bywyd gwyllt wrth symud ymlaen.
Mae Gwarchodfa Natur Green Gates yn rhan o ymateb y Cyngor i warchod ac adfer cynefinoedd natur lleol i gyfrannu at y nod o adfer natur.
Fe fydd y gwaith parhaus arall yn cynnwys adfer pyllau sydd eisoes yn bodoli, creu pyllau newydd a datblygu ardal o wlypdir ger dau gwrs dŵr bychan a chreu coetir, ac ardaloedd a chynefinoedd tir prysg a glaswelltir.
Bydd safle tir llwyd newydd yn cael ei greu i helpu i gefnogi ystod o fywyd gwyllt prin a phwysig - megis pryfed a blodau gwyllt, ac mae ysgubor bywyd gwyllt newydd yn cael ei adeiladu i gefnogi ystlumod sy’n clwydo ac adar sy’n nythu. Mae’r safle wedi cael ei nodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar gyfer madfallod dŵr cribog.
Bydd llwybrau hygyrch caniataol yn cael eu creu i alluogi preswylwyr lleol i ymweld â’r safle, a bydd ardal wylio uwch yn hefyd yn cael ei chreu.
Ariennir y gwaith hwn gan gyllid grant Llywodraeth y DU. Mae cyllid ychwanegol hefyd wedi cael ei ddarparu o Raglen Adfer Natur a Hinsawdd Sir Ddinbych. Gwaith yn y blanhigfa goed, a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Partneriaethau Natur Lleol Cymru.