Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Llun o wyneb y llyfr

Mae llyfr diddorol newydd o’r enw ‘Dee Valley: The Making of Our Picturesque Landscape’ yn mynd ar werth yn lleol yr wythnos hon, a chaiff ei lansio’n swyddogol yn Llyfrgell Llangollen ddydd Mawrth 12 Rhagfyr.

Mae’r llyfr, sydd wedi’i greu gan brosiect Ein Tirlun Darluniadwy a’i ysgrifennu gan yr awdur lleol, Jessica Hatcher-Moore, yn mynd â’r darllenwyr ar daith weledol o dirluniau ysbrydoledig Dyffryn Dyfrdwy, ac mae’n cynnwys straeon am gymeriadau dylanwadol a digwyddiadau sydd wedi ffurfio’r ardal dros y 400 mlynedd diwethaf.

Mae’r llyfr bach yn cynnwys rhai o’r darnau celf anhygoel sydd wedi’u hysbrydoli gan Ddyffryn Dyfrdwy darluniadwy dros y canrifoedd, gan gynnwys rhai gan arlunwyr byd-enwog fel Richard Wilson, Paul Sandby a J.M.W. Turner, yn ogystal ag arlunwyr lleol cyfoes sy’n dal i gael eu hysbrydoli gan Ddyffryn Dyfrdwy heddiw. Mae cyfres o gardiau post a ffotograffau hanesyddol o’r ardal wedi’u cynnwys, a rhai o’r disgrifiadau ysgrifenedig a cherddi hardd sydd wedi’u cyfansoddi am Ddyffryn Dyfrdwy dros y blynyddoedd.

Bydd modd prynu’r llyfr mewn lleoliadau lleol gan gynnwys Tŷ Hanesyddol Plas Newydd, Canolfan Groeso Llangollen a Pharc Gwledig Loggerheads ymhlith eraill, a gan mai nifer gyfyngedig fydd ar gael, argymhellir bod unrhyw un sydd â diddordeb yn prynu eu copi’n gynnar i osgoi cael eu siomi!

Cynhelir digwyddiad lansio ar gyfer llyfr Dyffryn Dyfrdwy ddydd Mawrth 12 Rhagfyr, 5.30pm yn Llyfrgell Llangollen. Bydd cyfle i bobl glywed gan dîm y prosiect a’r awdur Jessica Hatcher-Moore am yr ysbrydoliaeth a’r broses greadigol sy’n sail i’r llyfr, yn ogystal â phrynu eu copi eu hunain ar y noson. Mae’r digwyddiad hwn am ddim ac mae croeso i bawb, i archebu eich lle ewch i gwefan Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yr AHNE neu anfonwch neges e-bost at our.picturesque.landscape@denbighshire.gov.uk

Mae’r llyfr wedi’i gomisiynu trwy brosiect Ein Tirlun Darluniadwy, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Dywedodd Hannah Marubbi, Swyddog Partneriaeth Ein Tirlun Darluniadol:

“Mae Dyffryn Dyfrdwy wedi chwarae rôl mor hanesyddol sylweddol yn y mudiad celf Darluniadwy a’r Chwyldro Diwydiannol, a gyda’r llyfr hwn, rydym yn falch o allu rhannu straeon o ran sut mae’r ddwy agwedd wahanol iawn hyn wedi cyfuno i ffurfio Dyffryn Dyfrdwy heddiw. Rydym yn falch iawn o’r llyfr hwn, sy’n darlunio tirweddau newidiol Dyffryn Dyfrdwy yn hyfryd, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am y cyllid sydd wedi sicrhau bod ein prosiect, a’r llyfr hwn, yn bosibl.”

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Rydw i’n falch iawn o glywed am lansiad y llyfr newydd hwn a luniwyd gan ein prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’. Mae’r llyfr yn cynnig cyfle gwych i ddarllenwyr ddysgu rhagor am hanes cyfoethog Dyffryn Dyfrdwy, yn ogystal â dathlu’r artistiaid sy’n parhau i gael eu hysbrydoli gan harddwch y Dyffryn hyd heddiw. Prosiectau fel hyn sy’n chwarae rôl hollbwysig wrth amlygu’r hanes a’r diwylliant gwych yr ydym yn falch o’u cael yma yn Sir Ddinbych.”


Cyhoeddwyd ar: 08 Rhagfyr 2023