Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Rydym wedi ailwampio ein gwefan yn gyfan gwbl er mwyn ei gwneud yn fwy hygyrch i’r cyhoedd – ac mae wedi cael ei gwneud yn fyw heddiw (dydd Mercher, 16 Medi)

Mae angen i bob sefydliad gwasanaeth cyhoeddus sicrhau bod eu gwefannau yn ateb gofynion y Ddeddf Cydraddoldeb a darparu gwefannau hygyrch erbyn mis Medi 2020.  Mae gwneud gwefan yn hygyrch yn golygu y bydd pobl â nam ar y golwg, anawsterau echddygol, anableddau dysgu, pobl fyddar neu bobl â nam ar y clyw yn gallu defnyddio’r wefan.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Mainon, yr Aelod Cabinet Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chyfeiriad Strategol: “Gobeithiwn y bydd pobl yn hoffi ein gwefan ar ei newydd wedd ac yn gallu ei gwelywio a dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw yn llawer haws.

 “Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella ein gwasanaethau ar-lein ac mae'r newid diweddaraf yma yn y gyfraith yn gyfle da i ni ailwampio ein gwefan, gan wneud yn siŵr ei bod yn cydymffurfio’n llawn â’r canllawiau ar hygyrchedd.

“Rydym wedi bod yn cynnal profion ar y wefan ar y cyd â’r Ganolfan Mynediad i’r Anabl ac mae hi wedi pasio eu profion hygyrchedd. Rydym hefyd wedi cyflwyno newidiadau bach mewn ymateb i adborth gan y cyhoedd a hoffem ddiolch i bobl am roi o’u hamser i gysylltu.

“Mae hi’n edrych ac yn teimlo’n wahanol iawn i’r wefan bresennol.   Mae ganddi ddyluniad clir a syml; dylai bod y testun yn haws i'w ddarllen o ran ffont, lliw a chyferbynnedd; a dylai’r iaith hefyd fod yn haws i’w deall.  Mae’r wefan hefyd wedi’i dylunio er mwyn galluogi pobl i’w defnyddio ar gymaint o ddyfeisiau digidol â phosibl.

“Mae ein gwefan yn un o brif lwyfannau’r Cyngor i ddarparu cyngor a gwybodaeth i’r cyhoedd ac mae ar gael bob awr o’r dydd, bob dydd o’r flwyddyn. 

“Mae’r Cyngor yn canolbwyntio ar ddarparu mwy o wasanaethau ar-lein a chaniatáu i gwsmeriaid ddefnyddio’r wefan i dderbyn amrywiaeth eang o wybodaeth am wasanaethau’r Cyngor, yn ogystal â chofrestru ceisiadau, talu am bethau, a chymryd rhan mewn ymgynghoriadau.  

Mae’r wefan newydd sbon ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://www.sirddinbych.gov.uk/. 


Cyhoeddwyd ar: 16 Medi 2020