Drwy gydol mis Mai, bydd ymwelwyr â thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre yn cael y cyfle i fwynhau arddangosfa o waith yr artist adnabyddus Matthew Wood RCA.
Mae’r casgliad, a gyflwynwyd gan Oriel Ffin y Parc yn rhan o’i gyfnod preswyl 2025 a drefnwyd gan Gyfeillion Nantclwyd y Dre, yn cynnwys 20 darn newydd sy’n dal hanfod yr atyniad treftadaeth hwn i’r dim drwy arddull unigryw Matthew, drwy chwarae â golau a symudiad.
Yn ogystal â’r arddangosfa, bydd yr artist yn cynnal rhaglen o weithdai, sydd hefyd yn digwydd drwy gydol mis Mai a mis Mehefin. Bydd pum sesiwn annibynnol – yn ymdrin â braslunio, cyfansoddiad a thechnegau paentio gyda gouache – ar gael i’r cyhoedd archebu lle ar eu cyfer.
Yn ogystal â’r sesiynau cyhoeddus, bydd Matthew’n arwain gweithdy pwrpasol ar gyfer myfyrwyr TGAU, Safon Uwch a BTEC ar 28 Mai. Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar fireinio galluoedd darlunio a braslunio myfyrwyr, gan ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o bersbectif, golau, arlliw, cysgod, a gwneud marciau, a hynny drwy arsylwi’n uniongyrchol a gwaith gyda ffotograffau.
Dywedodd Helen Job, Cadeirydd Cyfeillion Nantclwyd y Dre:
“Roeddem wrth ein boddau pan gytunodd Matthew Wood i greu cyfres o baentiadau o’r hen dŷ hardd hwn. Mae’n arlunydd llwyddiannus a medrus iawn, sy’n creu gwaith rhyfeddol, llawn awyrgylch. Mae Matthew wedi paentio nifer o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a safleoedd treftadaeth ledled y DU, ac fe’i cynrychiolir gan Oriel Ffin y Parc, lle bydd hefyd yn arddangos mwy o dirluniau a mewnluniau i gydredeg â’n harddangosfa ni. Mae wedi gallu cofnodi heddwch a harddwch digyfnewid Nantclwyd y Dre. Mae’r rhain yn weithiau celf syfrdanol.”
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae’n wych clywed y bydd darluniau unigryw Matthew o Nantclwyd y Dre yn cael eu harddangos i bawb eu gweld yn y tŷ, ac mae’n gyfle ardderchog i rai o fyfyrwyr talentog y sir gael dysgu gan artist mor ddawnus.”
Cynhelir gweithdai cyhoeddus Matthew ar 14 ac 21 Mai, a 4 ac 11 Mehefin. Cynhelir y gweithdy i fyfyrwyr ar 28 Mai. Bydd yr holl weithdai’n digwydd yn Nantclwyd y Dre, Stryd y Castell, Rhuthun, LL15 1DP.
I gael manylion llawn neu archebu lle, cysylltwch â Matthew Wood ar 07790 018463 neu e-bost: matthewwoodpaintings@gmail.com.
Mae tŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre yn agored i’r cyhoedd bob dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn, 10.30am tan 4.30pm (mynediad olaf am 3.30pm; codir tâl am fynediad)