Ydych chi erioed wedi bod eisiau dysgu sut mae blodau gwyllt o fudd i anifeiliaid a bodau dynol?
Bydd cyfres o ffeithiau am flodau ar gael i gymunedau ar draws y sir yr hanner tymor hwn wrth i’r Wythnos Blodau Gwyllt ddychwelyd.
Trwy gydol yr wythnos, mae teithiau cerdded dolydd blodau gwyllt wedi’u cynllunio ar draws y sir, er mwyn helpu i ddeall pwysigrwydd y cynefin ar gyfer gwarchod rhywogaethau o flodau gwyllt, darparu bwyd i drychfilod a phryfed peillio a darparu ffynhonnell fwyd i anifeiliaid mwy oroesi.
Mae hefyd yn gyfle i ddysgu sut mae’r dolydd o fudd i’r cymunedau drwy helpu i oeri’r tir, er enghraifft a gweithredu fel rhwystr yn erbyn llifogydd.
Bydd digwyddiadau eraill yn canolbwyntio ar yr anifeiliaid sydd angen y dolydd i oroesi, megis gwenoliaid a gwyfynod.
Mae cyfle i ddysgu sut mae bywyd gwyllt lleol yn rhoi help llaw i ddolydd ar draws y sir ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy.
Sefydlodd Cyngor Sir Ddinbych y Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn 2019 ac mae bellach yn cynnwys tua 70 o erwau o ddolydd blodau gwyllt cynhenid sy’n creu cynefinoedd i warchod a chynnal byd natur yn lleol a hybu lles ein cymunedau ledled y sir.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyfrannu’n ariannol drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Partneriaethau Natur Lleol Cymru.
Yn ystod tymor 2024, cofnodwyd 297 o wahanol rywogaethau o flodau gwyllt ar y safleoedd hyn a chyfanswm o 5,269 o flodau unigol, llawer iawn mwy nag sy’n tyfu mewn caeau lle torrir y gwair yn gyson.
Gwelwyd tegeirianau’n tyfu am y tro cyntaf erioed mewn nifer o ddolydd blodau gwyllt ledled y sir.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth: Mae ein tîm Bioamrywiaeth yn edrych ymlaen at helpu unigolion o bob oed i ddysgu am y prosiect pwysig hwn ar gyfer natur a chymunedau yn ystod yr wythnos.
Ychwanegodd: “Rydyn ni wedi colli bron i 97 y cant o ddolydd blodau gwyllt yn y Deyrnas Unedig ers y 1930au, felly mae’r prosiect hwn yn hollbwysig i adfer byd natur yn yr ardal yn sgil y golled aruthrol honno. Wrth i ni weld mwy o flodau gwyllt yn dychwelyd i’r ardal drwy’r gwaith sy’n cael ei wneud, byddan nhw’n helpu i gynyddu bioamrywiaeth a lliw fel y gall cymunedau fwynhau’r ardal ac er mwyn cefnogi pryfed peillio sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau.
“Mae’r wythnos hon o ddigwyddiadau yn ffordd wych o ddeall pam bod y cynefinoedd hyn yn bwysig i natur a chymunedau a byddwn yn annog pawb sy’n byw’n agos at y dolydd i ymuno â’r teithiau cerdded i ddysgu mwy am yr holl bethau maent yn eu gwneud i bawb.”
Edrychwch ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor am yr amserlenni a’r wybodaeth ddiweddaraf.
Dyddiad
|
Amser
|
Digwyddiad
|
Lleoliad
|
Dydd Llun 26ain Mai
|
10.00 - 12.00
13.00 - 15.00
20.00 - 21.00
|
Taith Dywys Blodau Gwyllt
Taith Dywys Blodau Gwyllt
Taith Gerdded Gwenoliad Duon
|
Dôl Maes Parcio Canolog
Nova, Prestatyn
Llyn Morol, y Rhyl
Maes Parcio Green Lane,
Corwen
|
Dydd Mawrth 27ain
Mai
|
10.00 - 12.00
13.00 - 15.00
18.00 - 19.00
|
Taith Dywys Blodau Gwyllt
Taith Dywys Blodau Gwyllt a
Phryfaid
Sgwrs Prosiect Blodau Gwyllt
|
Maes Parcio Green Lane,Corwen
Ffordd y Graig, Dinbych
Microsoft Teams
|
Dydd Mercher 28ain
Mai
|
10.00 - 12.00
13.00 - 15.00
20.00 - 21.00
|
Taith Dywys Blodau Gwyllt
Taith Dywys Blodau Gwyllt
Taith Gerdded Gwenoliad Duon
|
Stryd y Brython, Rhuthun
Plas Lorna, Rhuddlan
Madryn Avenue, y Rhyl
|
Dydd Iau 29ain Mai
|
10.00 - 11.30
21.00 - 23.00
|
Taith Planhigfa Goed
Taith Ystlumod
|
Fferm Green Gates, Llanelwy
Gwarchodfa Natur Rhuddlan
|
Dydd Gwener 30ain
Mai
|
10.30 - 15.00
20.00 - 21.00
|
Gwerthu Planhigion Blodau
Gwyllt
Taith Gerdded Gwenoliad Duon
|
Nantclwyd y Dre, Rhuthun
Maes Parcio Dog Lane,
Rhuthun
|
Dydd Sadwrn 31ain
Mai
|
9.00 - 10.00
21.30 - 23.30
|
Dal Gwyfynod
Noson Ystlumod
|
Glasdir, Rhuthun
Nanyclwyd y Dre, Rhuthun
|
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu unrhyw un o'r digwyddiadau cliciwch ar y ddolen hon i archebu https://www.eventbrite.com/cc/wythnos-blodau-gwyllt-wildflower-week-4311343
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost biodiversity@denbighshire.gov.uk