Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Ysgol Henllan

Mae disgyblion Ysgol Henllan wedi torchi eu llewys i helpu i lunio safle newydd y gall byd natur a phreswylwyr ei fwynhau gyda’i gilydd.

Fe fu’r disgyblion yn gweithio’r wythnos hon gyda Cheidwaid Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr i ddechrau llunio Safle Natur Cymunedol newydd Henllan ar dir y tu ôl i Ffordd Meifod.

Mae’r ardal hon yn un o bedwar safle natur cymunedol newydd - ochr yn ochr ag ardaloedd tebyg yn Y Rhyl, Llanelwy a Chlocaenog - y mae Gwasanaeth Cefn Gwlad a thimau Newid Hinsawdd Cyngor Sir Ddinbych yn eu creu yn y sir eleni i hybu manteision ar gyfer bywyd gwyllt lleol a lles preswylwyr.

Mae gwaith Safleoedd Natur Cymunedol yn ogystal â gwaith creu coetiroedd mewn ysgolion ar hyd a lled y sir eleni wedi derbyn cyllid a ddaw o grant £800,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae disgyblion wedi bod yn brysur yn palu gan helpu i blannu dros 1,700 o goed ar y safle. Bydd y safle hefyd yn cynnwys llwybrau troed newydd, pwll, dolydd blodau gwyllt, man hamdden ac ardal bicnic, lloches i drychfilod (hynny yw “banc gwenyn”) ac ystafell ddosbarth awyr agored cyn diwedd y flwyddyn hon.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dyma ymdrech anhygoel gan y bobl ifanc hyn i helpu i greu cynefin cryfach gyda chyfoeth o rywogaethau y gall byd natur elwa ohono yn ogystal â safle cymunedol gwych i breswylwyr lleol, hen ac ifanc, i’w fwynhau a dysgu o fywyd gwyllt ar y tir.

“Fe fydd y safle natur cymunedol newydd hwn yn y pentref hefyd yn dod â manteision eraill gan gynnwys gwella ansawdd yr aer, oeri gwres trefol a chyfleoedd i gefnogi lles corfforol a meddyliol y gymuned wrth iddynt alw heibio’r ased newydd gwych hwn.”

Bydd Safle Natur Cymunedol Henllan hefyd yn helpu i gefnogi ymdrech y Cyngor i leihau ôl-troed carbon y sir drwy gyfrannu at y cyfanswm o garbon a gaiff ei storio (neu ei amsugno) mewn llystyfiant a phriddoedd.

 

Nodiadau i Olygyddion

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gonglfaen i raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

 


Cyhoeddwyd ar: 21 Mawrth 2024