Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

gwaith yn dechrau ar y prosiect

Mae gwaith wedi dechrau i adeiladu Pwll Hydrotherapi newydd yn Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl.

Bydd Pwll Hydrotherapi arbenigol 19 troedfedd yn cael ei osod yn y cyfleuster newydd ar dir yr ysgol, mewn adeilad ar ei ben ei hun, sydd hefyd wrthi’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Bydd y pwll newydd yn cael ei ddefnyddio gan y disgyblion ar gyfer sesiynau hydrotherapi.

Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos â’r ysgol i gyrraedd y cam hwn gyda’r prosiect, ac mae’r cam cyntaf ar y gweill erbyn hyn. Cynlluniwyd y prosiect hwn gan dîm pensaernïaeth mewnol y Cyngor.

Bydd cwblhau’r gwaith hwn yn garreg filltir gyntaf i ysgol yn Sir Ddinbych a bydd yn rhoi mynediad i'r ysgol a'i disgyblion at adnodd amhrisiadwy.

Bryn Build Ltd o’r Wyddgrug yw’r prif gontractwr a benodwyd i wneud y gwaith, a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn yr hydref, 2025.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae dechrau’r gwaith hwn yn arwydd o gam mawr yn y math o ddatblygiadau o fewn ysgolion yr ydym yn ymgymryd â hwy yma yn Sir Ddinbych, a’r prosiect newydd cyffrous hwn yw’r cyntaf o’i fath yn y Sir.

Bydd y cyfleuster newydd hwn yn cynnig arlwy modern o ansawdd uchel i ddisgyblion, a fydd yn cael ei gynllunio a’i deilwra’n benodol ar gyfer eu hanghenion. Rwy’n falch o weld bod y cyfnod adeiladu wedi dechrau bellach, yn dilyn yr holl waith sydd wedi’i wneud yn y cefndir i gyrraedd y cam hwn.”

Meddai Susan Roberts, Pennaeth Ysgol Tir Morfa:

“Rydym yn hynod gyffrous i weld ein Pwll Hydrotherapi yn cael ei adeiladu ar ôl yr hirymaros. Bydd cael mynediad at y cyfleuster hydrotherapi gwych hwn yn cynnig amrywiaeth o fanteision ychwanegol rhagorol i’n disgyblion, ac yn cefnogi eu datblygiad corfforol a lles.

Rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth gan deuluoedd a’r gymuned leol yn fawr, gyda’r holl ddigwyddiadau codi arian, sydd wedi caniatáu datblygu’r ddarpariaeth ymhellach yn ein hysgol benigamp.”

Ariennir y prosiect hwn gan yr ysgol drwy eu gweithgareddau codi arian, yn ogystal â chyllid grant Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru.


Cyhoeddwyd ar: 30 Ebrill 2025