Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Cymunedau Digidol Cymru a Cyngor Sir

Ddinbych wedi dod ynghyd i lansio cynllun gwirfoddolwyr digidol yn y Sir i gynorthwyo’r trigolion sydd angen cymorth gyda thechnoleg digidol.

Mae’r pandemic wedi tanlinellu yn fwy nag erioed fod cynhwysiad digidol yn hanfodol. Heb dechnoleg, byddai wedi bod yn anodd iawn cadw mewn cysylltiad gyda theulu ag ffrindiau yn ystod y cyfnod clo.

Fodd bynnag, mae yna bobl yn parhau heb yr hyder i allu defnyddio tabledi na ffonau a nod y cynllun hwn yw estyn llaw i’r rhai sydd wedi cael eu gadael ar ôl, a’u rhoi ar ben ffordd i ddysgu sgiliau digidol amhrisiadwy.

Mae technoleg yn gallu newid bywyd, yn gallu helpu pobl i fod yn fwy annibynol ac yn hwb i iechyd meddwl ac mae’r cyfeillion digidol wedi cael eu recriwitio i gynnig cymorth angenrheidiol iddynt dros y ffon

 

Dywedodd Gareth Jones o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych: “Mae cymunedau led-led Cymru ag enwedig yn Sir Ddinbych wedi dod at ei gilydd yn ystod y pandemig, ac amcan y cynllun

Cyfeillion Digidol yw i fanteisio ar y egni hwnnw, o fewn ein cymunedau i gefnogi ein gilydd”.

Dywedodd y Cyng. Bobby Feeley, sy’n arwain ar lles uniglion ar ran Cyngor Sir Ddinbych, “Mae’r pandemig wedi dod i’r amlwg yr angen am gymorth digidol fwy nag erioed. Ar ddechrau’r pandemig, roedd y rhan fwyaf o bobl yn gallu dysgu’n sydyn ar sut i gadw mewn cysylltiad, ond i eraill o fewn ein cymunedau, fe brofwyd hi’n anodd iawn. Gobaith y cynllun hwn yw cyrraedd y bobl hynny sydd angen cefnogaeth ychwanegol er mwyn sicrhau fod ein cymunedau yn parhau mewn cysylltiad”.

“Mae’r Cyngor yn credu ei bod yn hanfodol i gefnogi’r cynllun hwn, am ei fod yn gam cadarnhaol at gefnogi’r bobl sydd ei angen”.

Dywedodd Deian ap Rhisiart ar ran Cymunedau Digidol Cymru, “Yr ydym wedi gweithio yn y maes cynhwysiad digidol ers dros ddegawd ar hyd a lled Cymru, ag mae hwn yn ymateb amserol i daclo’r bwlch mewn sgiliau. Mae pobl angen gallu cadw mewn cysylltiad, i fedru defnyddio gwasanaethau digidol, i ofalu am ei iechyd meddwl mewn cyfnod clo, ac mae technoleg yn rhan ganolog o’r ateb”.

Fe fydd y Cyfeillion Digidol yn dechrau cynorthwyo pobl dros y ffôn fis nesaf ac un o’r gwirfoddolwyr yw Keith Jones: "Mae yna berygl fod rhai pobl yn cael eu gadael ar ôl. Mae hyn wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y pandemig. Dwi eisiau defnyddio fy sgiliau i gynorthwyo”.

Os ydych yn gwybod am berthynas neu ffrind sydd wedi derbyn tabled neu ffôn clyfar dros y Nadolig ac angen cymorth ar sut i’w ddefnyddio, mae’r cynllun hwn yn awyddus i glywed gennych er mwyn eich paru gyda chyfaill digidol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda Gareth Jones ar 01824 702441 neu ebostio office@dvsc.co.uk.


Cyhoeddwyd ar: 28 Ionawr 2021