Mae disgyblion wedi dylunio logo newydd ar gyfer canolfan gymunedol.
Cynhaliwyd cystadleuaeth yn ddiweddar i ddylunio logo newydd ar gyfer Canolfan Gymunedol Pengwern yn Llangollen.
Bu plant blwyddyn 5 a 6 Ysgol y Gwernant ac Ysgol Bryn Collen yn cymryd rhan drwy gyflwyno eu syniadau gyda lluniau oedd yn cynrychioli eu cysyniadau am ‘Pengwern’.
Mae’r ganolfan yn gweithio i gynyddu cyfleoedd i wella sgiliau a dyheadau, ynghyd ag adnoddau i ddarparu gweithgareddau a gwasanaethau i gefnogi pobl.
Derbyniwyd bron i 100 o geisiadau a ddidolwyd i lawr i bedwar gan gynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych, Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych a Chyfeillion Pengwern.
Arddangoswyd y pedwar terfynol yng Nghanolfan Pengwern a’u rhannu ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Prosiect, er mwyn i breswylwyr bleidleisio am eu hoff ddyluniad ar gyfer y logo.
Rhannwyd yr ymgais fuddugol gyda Dylunydd Graffeg a greodd ddelwedd broffesiynol o syniad y plentyn i greu logo newydd Canolfan Pengwern.
Roedd pob plentyn yn derbyn bag nwyddau am ymgeisio yn y gystadleuaeth, ond y pedwar plentyn a dderbyniodd wobr am ennill a chyrraedd y brig oedd:
- Jimmy McGreary - Blwyddyn 5 Ysgol y Gwernant (ENILLYDD)
- Rhys Wyn-Jones - Blwyddyn 6 Ysgol y Gwernant
- Delilah Kemp - Blwyddyn 5 Ysgol Bryn Collen
- Hester Sutcliffe - Blwyddyn 6 Ysgol Bryn Collen
Dywedodd y Cyng. Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Rydym yn falch iawn o weld cymaint o gefnogaeth ar gyfer y gystadleuaeth hon ac eisiau dymuno llongyfarchiadau mawr i Jimmy am ei ddyluniad buddugol.
“Mae’r Cyngor yn falch o barhau i weithio gyda’n sefydliadau partner i gefnogi gwaith parhaus y ganolfan i wella lles cyffredinol y gymuned leol.
Dywedodd Gwyndaf Davies, Pennaeth Ysgol y Gwernant: “Fel ysgol rydym yn ddiolchgar i Ganolfan Pengwern am ofyn i ni gymryd rhan yn y gystadleuaeth dylunio logo. Mae’r plant yn mwynhau cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol ac roedd y gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i blant ddefnyddio eu sgiliau creadigol.
Rydym yn falch bod ein disgyblion wedi gwneud cystal yn y gystadleuaeth. Llongyfarchiadau i Jimmy McGreary o flwyddyn 5 ar ddod yn fuddugol a Rhys Jones o flwyddyn 6 am gyrraedd y 4 uchaf. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran”.
Dywedodd Margaret Sutherland, Prif Swyddog Gweithredol Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych (SDCP): “Mae SDCP yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych a Chyfeillion Pengwern ar ddatblygiad y ganolfan gymunedol, a fydd yn darparu gwell gweithgareddau a gwasanaethau ar gyfer cymuned Llangollen.
“Nododd ymgynghoriad yn ystod haf 2021 y gwasanaethau a’r gweithgareddau yr oedd y gymuned yn teimlo eu bod eu hangen. Mae gan yr holl bartneriaid ddyhead clir bod y ganolfan yn darparu man y bydd Cymuned Llangollen yn ei groesawu ac yn cyfrannu’n weithredol at ei reoli, felly roedd cynnwys plant i ddylunio’r logo newydd yn gam cyntaf i wireddu’r dyhead, ac rydym yn teimlo bod hyn yn rhoi’r ganolfan yng nghalon y gymuned a’i lleoliad.”