Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Yn ystod Ebrill 2023, mae Carchar Rhuthun wedi croesawu dros 1400 o ymwelwyr trwy ei ddrysau hanesyddol, gan ddyblu ffigyrau Ebrill 2019, sef y ffigyrau olaf oedd ar gael cyn COVID a’r llifogydd.

Bu i gyfnod prysur iawn dros y Pasg helpu i gynyddu’r niferoedd yn ogystal â chynnal Marchnad Artisan Rhuthun yno ddiwedd y mis.

Bu i’r Carchar ailagor ar 1 Ebrill ar ôl dwy flynedd o waith adnewyddu yn dilyn llifogydd. Mae islawr y Carchar bellach wedi’i adfer i ddangos y gwaith brics gwreiddiol, gan gynnig profiad gwirioneddol unigryw ac atmosfferig i ymwelwyr.

Mae’r ardaloedd awyr agored yn y Carchar hefyd wedi cael eu datblygu, gan ganiatáu ymwelwyr i archwilio mwy o’r safle hanesyddol.

Mae cell newydd hefyd wedi’i datblygu, sy’n adrodd stori’r carcharorion a gludwyd o Garchar Rhuthun i Awstralia.

Dywedodd Philippa Jones, Rheolwr Gweithredu a Datblygu Safle Treftadaeth:

“Rydym wrth ein boddau o weld niferoedd mor uchel yn dod trwy ein drysau o fewn y mis cyntaf ar ôl ailagor.

Edrychwn ymlaen at weddill y tymor a gobeithiwn barhau i weld nifer dda yn ymweld.

Mae’r Carchar ar agor bob dydd, heblaw dydd Mawrth, ac mae’n brofiad hollol unigryw i’r teulu oll. Rydym hefyd yn croesawu cŵn!

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Rwy’n falch o weld bod dros 1400 o bobl wedi penderfynu dod i gefnogi’r Carchar ar ôl iddo ailagor. Mae’n drysor ac rydym yn lwcus iawn o’i gael ar garreg y drws.

Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes lleol i ymweld gan ei fod yn safle gwirioneddol ryfeddol.”


Cyhoeddwyd ar: 09 Mai 2023