Mae nifer o brosiectau wedi cael eu cwblhau yn Sir Ddinbych i gefnogi cymunedau i gynnal rhagor o ddigwyddiadau cynaliadwy a chost-effeithiol yn eu hardaloedd lleol.
Mae dyraniad cyllid gwerth £128,000 wedi galluogi cymunedau i gwblhau’r prosiectau canlynol yn llwyddiannus er mwyn sicrhau gwelliannau hanfodol i leoliadau presennol a helpu i gefnogi isadeiledd digwyddiadau yn y sir:
- Gosod lifft grisiau a diffibriliwr yn Neuadd Bentref Eleanor.
- Cadeiriau, offer cegin ac arwyddion mewnol ac allanol newydd yng Nghanolfan Gymunedol Pentredŵr.
- Gwelliannau trydanol i dŵr y cloc yn yr Hen Lys Arglwydd yn Rhuthun.
- Gwelliannau i systemau sain, goleuadau a storio yn Y Ganolfan, Llandrillo.
- Mynediad band eang gwell yn Neuadd Goffa Owain Glyndŵr.
- Gwelliannau i’r grisiau a chyfleusterau’r gegin yn ogystal â gosod sgrin a thaflunydd newydd yn Neuadd Bentref Llandyrnog.
- Uwchraddio’r gegin yn Neuadd Carrog.
- Gwelliannau i gyfleusterau Cyngor Tref Rhuddlan, gan gynnwys gwelliannau trydanol i Ganolfan Gymunedol a maes parcio Stryd y Senedd, gosod cyfleusterau dolen glyw yn y Ganolfan Gymunedol a phrynu gasebos a chyfleusterau storio offer.
- Gwaith trydanol yn Safle Seindorf Llangollen.
Mae Tîm Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych wedi cefnogi bob prosiect ac wedi bod ar gael i gynnig arweiniad, ac i hyrwyddo a gweithredu fel swyddog cyswllt gydag adrannau mewnol yn ôl y gofyn. Disgwylir y bydd rhagor o brosiectau wedi cael eu cwblhau erbyn mis Tachwedd 2023.
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas. “Dyma gyfle gwych i grwpiau cymunedol a threfnwyr digwyddiadau wella cyfleusterau ar draws y sir. Mae nifer o’r lleoliadau hyn yn ganolfannau hanfodol ar gyfer digwyddiadau ac ymgysylltiad cymunedol, ac rydym yn falch o weld bod y cyllid wedi arwain at welliannau i isadeiledd yn Sir Ddinbych ac edrychwn ymlaen at weld gweddill y prosiectau a ariennir yn dwyn ffrwyth yn fuan.”
Os hoffech chi gefnogaeth i ddatblygu syniad neu brosiect cymunedol, cysylltwch â Thîm Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych drwy e-bostio: communitydevelopment@denbighshire.gov.uk