Mae cynllun peilot mewn ysgol yn y Rhyl i leihau llygredd aer, allyriadau carbon o deithio a gwella diogelwch ar y ffyrdd wedi cynhyrchu canlyniadau cadarnhaol.
Roedd y prosiect Strydoedd Ysgol yn golygu cau ffyrdd dros dro tu allan i Ysgol Llywelyn rhwng 8.30am a 9.15am a 2.30pm a 3.30pm. Digwyddodd y cau rhwng Mawrth 22 a 26 ac Ebrill 12 a 16.
Roedd y cau yn effeithio ar Ffordd Trellywelyn o’i gyffordd â Grosvenor Avenue i’w gyffordd â Thornley Avenue a Weaver Avenue o’i gyffordd â Ffordd Trellywelyn i’w gyffordd â Westminster Avenue a Handsworth Crescent.
Roedd mynediad yn parhau i ddeiliaid Bathodynnau Glas a thrigolion oedd yn byw o fewn y ffyrdd a effeithiwyd gan y cau dros dro.
Mae arolwg a gynhaliwyd ar ymdrechion y prosiect i wella ansawdd aer wrth atal cerbydau rhag aros tu allan i’r ysgol a diogelwch o amgylch y safle, wedi derbyn adborth cadarnhaol tuag at y cynllun dros dro gan drigolion lleol a rhieni a gwarcheidwaid.
Roedd barn y rhieni ar agwedd amgylcheddol y prosiect yn cynnwys:
- ‘Mae cymaint o bobl yn parcio ar y palmant i ollwng eu plant, rhai yn parcio reit tu allan i’r giatiau hefyd. Mae’n anodd cadw pellter oddi wrth eraill tu allan i’r ysgol, yn arbennig pan mae gan bobl bramiau i fynd trwyddynt. Roedd hi’n braf peidio cael mygdarth ceir o amgylch y giatiau pan oedd y ffyrdd wedi cau.’
- ‘Roedd hi’n braf iawn cael llai o draffig o amgylch yr ysgol. Mae wedi fy annog i gerdded gyda fy merch i’r ysgol. Mae’n amlwg bod llai o lygredd, ac mae’n teimlo’n fwy diogel.
Roedd y sylwadau a dderbyniwyd gan drigolion a rhieni o ran yr agwedd diogelwch yn cynnwys:
- ‘Roedd cau y ffyrdd yn gwneud i mi deimlo bod fy mhlentyn yn llawer mwy diogel yn cerdded i ac o’r ysgol’
- ‘Diolch am ystyried y dewisiadau ar y rhan anniogel hon o’r ffordd yn ystod amser cyrraedd a gadael.’
- ‘Pam mae pobl yn parcio ar draws y llwybrau cerdded mae’n beryglus i gerdded gyda’r plant ar y ffordd er mwyn pasio’r ceir.’
Dywedodd y Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol dros Wastraff, Cludiant a’r Amgylchedd: “Rydym yn ddiolchgar i rieni, trigolion lleol a busnesau am roi adborth gwerthfawr ar y prosiect Strydoedd Ysgol yn Ysgol Llywelyn. Mae wedi bod yn braf clywed safbwyntiau cadarnhaol ar welliannau i ddiogelwch a lles y plant ac hefyd yr effaith ar leihau llygredd aer ac allyriadau carbon o amgylch safle’r ysgol.”
“Mae gwella mesurau diogelwch o amgylch ysgolion ar gyfer ein pobl ifanc a lleihau allyriadau carbon, yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae hwn yn un ymhlith nifer o brosiectau i gyflawni hyn. Hoffwn ddiolch i rieni a thrigolion lleol am eu dealltwriaeth yn ystod y cynllun peilot.”