Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Cafodd gwaith tîm ynni i leihau carbon ar draws Sir Ddinbych ei amlygu mewn cynhadledd genedlaethol a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Rhoddodd Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych gyflwyniad yn y gynhadledd ‘y Daith at Gymru Sero Net’ a gynhaliwyd gan Salix, Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn Venue Cymru, Llandudno ar 29 Mai.

Daeth siaradwyr o amrywiaeth eang o sectorau at ei gilydd i rannu eu syniadau, eu gweledigaethau a’u llwyddiannau er mwyn sefydlu rhwydwaith o ddysgu y gellir manteisio arno ar y daith tuag at Gymru sero net.

Gwahoddwyd y Tîm Ynni i siarad yn y digwyddiad am y gwaith maen nhw wedi’i wneud ar draws ysgolion y sir i wella effeithlonrwydd ynni, gostwng allyriadau carbon a lleihau costau rhedeg hirdymor.

Mae’r gwaith mae’r tîm wedi’i wneud mewn dros 30 o ysgolion hyd yma yn rhan o ymgyrch y Cyngor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gyhoeddwyd yn 2019 ac i leihau ei ôl-troed carbon ei hun. Ariannwyd y prosiectau drwy gyllideb rheoli ynni a newid hinsawdd y Cyngor a gan Lywodraeth Cymru drwy’r Grant Gwres Carbon Isel a’r Grant Cyllid Cyfalaf i gefnogi cynnal a chadw cyfalaf a rheolaeth ynni.

Roedd y gwaith yn yr ysgolion yn cynnwys gosod pympiau gwres ffynhonnell aer, paneli solar ffotofoltäig ar doeau, goleuadau LED, gwell rheolyddion gwresogi, uwchraddio systemau gwresogi a newid ymddygiad mewn perthynas â’r defnydd o ynni drwy ymgysylltu â staff y safle a chyflwyno gwersi ar effeithlonrwydd ynni i’r disgyblion.

Mae pympiau gwres bellach ar waith yn Ysgol Betws Gwerfil Goch, Ysgol Tir Morfa ac Ysgol Brynhyfryd. Gall y pympiau hyn droi un cilowat o drydan yn dri cilowat o wres.

Mae’r goleuadau LED wedi lleihau llwythi ynni o 50 y cant o leiaf. Mae'r tîm hefyd wedi gweithio i osod deunydd inswleiddio mewn atigau a waliau yn ogystal a mesurau atal drafftiau lle roedd angen, er mwyn arbed costau cyfleustodau ymhellach.

Mae'r safleoedd hyn hefyd wedi cael paneli solar ffotofoltäig, goleuadau LED, rheolyddion gwresogi wedi'u haddasu a systemau storio ynni batri i leihau’r angen i allforio ynni solar ffotofoltaig dros ben yn ôl i’r grid.

Mae’r prosiect ysgolion wedi arwain at gyfanswm arbedion cost cronnus o tua £300,000 sydd yn arbedion uniongyrchol i’r ysgolion oherwydd nad ydynt yn talu am yr ynni.

Mae’r gwaith hefyd wedi lleihau allyriadau carbon pob safle gan arwain at arbediad hollgynhwysfawr o 533 tunnell.

Drwy brosiectau a gwblhawyd yn yr ysgolion ac mewn adeiladau eraill sy’n eiddo i’r Cyngor mae’r Tîm Ynni wedi llwyddo i gyrraedd carreg filltir bwysig o dros fegawat o gapasiti ynni adnewyddadwy (1099kWp). Mae’r rhan fwyaf o’r ynni hwn yn cael ei gynhyrchu gan baneli solar ffotofoltäig ar doeau, gyda llawer wedi’u gosod ar adeiladau ysgolion. Gall pob cilowat a gynhyrchir gan baneli ffotofoltäig arbed tua 30 ceiniog.

Dywedodd y Swyddog Prosiect Ynni, Martyn Smith: “Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y digwyddiad hwn am y gwaith mae’r Tîm Ynni wedi’i wneud drwy’r prosiect ysgolion. Ym mhob ysgol yr ydym wedi gweithio arni edrychwyd yn ofalus ar bob adeilad unigol i’n helpu ni i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o uchafu effeithlonrwydd ynni pob safle.

“Mae pob un ysgol yr ydym wedi gweithio â hi wedi bod yn wych gan gefnogi syniadau’r tîm a’n helpu ni i benderfynu ar yr atebion arbed ynni gorau iddyn nhw er mwyn eu helpu nhw i ddefnyddio llai o ynni a lleihau eu costau ar yr un pryd.

“Mae gweithio ar y prosiectau hyn wedi helpu’r tîm i addasu a chynllunio i leihau carbon hyd yr eithaf ym mhob adeilad ysgol yr ydym wedi gweithio arno ac mae’r gwaith hwn wedi gosod sylfeini da ar gyfer pob prosiect newydd y byddwn yn gweithio arno yn y dyfodol.

Dywedodd Helen Vaughan-Evans Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau “Mae’n wych bod gwaith arloesol ein tîm ynni wedi cael ei gydnabod yn y gynhadledd hon.

“Mae’r tîm wedi gwneud llawer iawn o waith a fydd yn cefnogi’r nod o leihau costau defnydd ynni hirdymor i’r ysgolion ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio mewn safleoedd addysgol eraill ar draws y sir i roi’r un cymorth iddyn nhw.”

 


Cyhoeddwyd ar: 06 Mehefin 2024