Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae arddangosfa newydd yn Llyfrgell y Rhyl yn rhoi bywyd newydd i freuddwydion angof fel rhan o Fis Hanes Lleol.

A wnaethoch chi erioed freuddwydio am ddal tram o Brestatyn i Dŷ Opera’r Rhyl? Neu hedfan eich car hofran i gartref plastig o dan y tonnau oddi ar yr arfordir? Dyma rai o’r gweledigaethau mentrus, rhyfedd a gwych ar gyfer dyfodol y Rhyl. Bellach, mae arddangosfa newydd yn Llyfrgell y Rhyl yn rhoi bywyd newydd i’r breuddwydion angof hyn fel rhan o Fis Hanes Lleol.

Mae’r arddangosfa’n defnyddio’r cyfoeth o archifau hanes lleol yn y llyfrgell, ynghyd â ffynonellau hynod ddiddorol eraill. Mae’n cynnwys ystod eang o gynigion uchelgeisiol ar gyfer y Rhyl a’r ardal gyfagos.

Meddai Deborah Owen, Prif Lyfrgellydd Sir Ddinbych:

“Mae cyfoeth o adnoddau hanes lleol yn ein Llyfrgelloedd os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am eich ardal leol.

“P’un a oes gennych chi ddiddordeb mewn archwilio ein casgliad o lyfrau hanes lleol neu bori drwy gopïau’r gorffennol o bapurau newydd y Rhyl sy’n dyddio’n ôl i’r 1850au, mae rhywbeth i bawb yma.”

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

"Mae’r arddangosfa ddiddorol hon yn ein hatgoffa o’r creadigrwydd a’r uchelgais sydd wedi bod ynghlwm â’r Rhyl dros y blynyddoedd.

“Er nas gwireddwyd pob syniad, mae pob un ohonynt yn adrodd hanes hunaniaeth esblygol y dref a gobeithion pobl ar gyfer ei dyfodol.

“Mae’n wych gweld ein llyfrgell yn rhannu’r hanesion hyn â’r cyhoedd mewn modd hynod ddiddorol.”

Os hoffech chi ymchwilio i’ch coeden deulu, mae’r llyfrgelloedd hefyd yn cynnig mynediad am ddim at wefannau achyddol megis Find My Past ac Ancestry.com.

Bydd arddangosfa ‘Y Rhyl - Y cynlluniau na ddaethant byth i ddwyn ffrwyth’ ar gael tan 31 Mai.

Ceir mynediad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb ddod draw i gymryd cam yn ôl a gweld sut allai pethau fod wedi edrych yn y Rhyl heddiw.


Cyhoeddwyd ar: 20 Mai 2025