Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Logo Cyngor Sir

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi y bydd yn croesawu teuluoedd sy’n ffoaduriaid o’r Wcráin, fel rhan o’i ymrwymiad parhaus i gefnogi Cynllun Adsefydlu’r DU.

Mae gan y Cyngor brosesau ar waith ac mae’n gwneud y paratoadau i ymestyn a chyflymu’r cynnig i adsefydlu teuluoedd o’r Wcráin, unwaith y bydd canllawiau pellach wedi’u derbyn gan Lywodraethau Cymru a’r DU.

Mae gan y Cyngor hanes hir o letya a chefnogi ffoaduriaid ac mae wedi addo croesawu teuluoedd bob blwyddyn. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi ailsefydlu 25 o deuluoedd, yn cynnwys 95 o unigolion, yn bennaf mewn ymateb i'r argyfwng llochesi yn Syria ac Afghanistan.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Les ac Annibyniaeth: “Mae’r golygfeydd torcalonnus sy’n cael eu darlledu o’r Wcráin bob dydd wedi syfrdanu’r genedl ac mae llawer o bobl eisiau rhannu eu cefnogaeth i’r miloedd o bobl sydd wedi ffoi o’u cartrefi wrth o’r sefyllfa barhau i ddatblygu.

“Mae’n fraint i’r Cyngor fod wedi helpu ffoaduriaid o Syria ac Afghanistan i ailsefydlu’n ddiogel yn ein sir ac rydym yn estyn ein llaw o gyfeillgarwch i deuluoedd o’r Wcráin sydd bellach yn canfod eu hunain mewn angen dirfawr am loches.

“Trwy gyllid y Swyddfa Gartref, rydym mewn sefyllfa dda i ddarparu’r cymorth hwnnw gyda thîm ymroddedig o staff sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd, yn ogystal â chymorth gan bartneriaid yn y trydydd sector a chan grwpiau gwirfoddol lleol”.

Yn y cyfamser, bydd baner Wcráin yn cael ei chwifio yn Neuadd y Sir, Rhuthun a Thŷ Russell, y Rhyl o ddydd Mawrth, Mawrth 15 fel arwydd o gefnogaeth y Cyngor i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan yr erchyllterau.


Cyhoeddwyd ar: 14 Mawrth 2022