Ar ôl dwy flynedd o adferiad llifogydd, bydd Carchar Rhuthun yn ailagor drysau ei gelloedd i ymwelwyr o 1 Ebrill.
Mae’r gwaith adfer yn cynnwys llawer o ychwanegiadau newydd cyffrous i ymwelwyr eu harchwilio.
Mae islawr y Carchar nawr wedi’i adfer i ddangos y gwaith brics gwreiddiol, gan gynnig profiad gwirioneddol unigryw ac atmosfferig i ymwelwyr. Mae cell newydd hefyd wedi’i datblygu, sy’n adrodd stori’r carcharorion a gludwyd o Garchar Rhuthun i Awstralia.
Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu archwilio mwy o’r ardaloedd awyr agored yn y Carchar.
Bydd y Carchar yn agored drwy’r tymor, hyd at 30 Medi. Mae’n agor yn ddyddiol (heblaw dydd Mawrth) o 10:30am tan 5pm, gyda’r mynediad olaf am 4pm.
Dywedodd y Cynghorydd Win-Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae’n wych gweld bod y lleoliad hwn yn ailagor ei ddrysau ar ôl dwy flynedd. Mae’n cynnig profiad gwych i ymwelwyr ac yn cynnwys hanes diddorol o fewn ei waliau.”
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae’r Carchar yn dirnod hanesyddol pwysig yn Rhuthun ac rwy’n falch y bydd yn ailagor i ymwelwyr ym mis Ebrill. Mae’n ddarn annatod o hanes y dref, ac rydym yn ffodus iawn i’w gael ar garreg drws yma yn Sir Ddinbych.”
Dywedodd Philippa Jones, Rheolwr Gweithredu a Datblygu Safle Treftadaeth:
“Rydym yn falch o allu agor yr atyniad gwych hwn unwaith eto. Mae ein tîm wedi gweithio’n ddiflino i wneud hyn yn bosibl a chreu profiadau newydd ar gyfer y tymor.
Mae wedi bod yn anodd cadw ein hwyliau i fyny ar adegau pan mai’r rhan orau o’r swydd yw croesawu pobl. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pobl drwy’r drysau eto ar 1 Ebrill.”
Am ragor o wybodaeth.