Mae ehangu isadeiledd gwefru cerbydau trydan Sir Ddinbych wedi ei groesawu fel adnodd gwych i bobl leol ac ymwelwyr gan grŵp cenedlaethol.
Mae Cymdeithas Cerbydau Trydan Cymru - EVA Cymru wedi rhoi’r golau ‘gwyrdd’ i ganolbwynt gwefru newydd yn y Rhyl.
Agorwyd canolbwynt gwefru cerbydau trydan maes parcio Gorllewin Cinmel fis diwethaf i gefnogi perchnogion lleol cerbydau trydan a’r rhai sy’n teithio o ymhellach i ffwrdd.
Ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, mae’r safle sydd â lle i 36 cerbyd yn gymysgedd o fannau gwefru 7kwh ‘cyflym’ ar gyfer defnyddwyr lleol sydd heb le i barcio oddi ar y stryd, a mannau gwefru 50kw ‘chwim’ ar gyfer gwefru’n gyflym ac i annog gyrwyr tacsis lleol i ddefnyddio cerbydau trydan drwy leihau’r amhariad i’w hamser gweithio.
Mae’r gorsafoedd hefyd yn helpu i gefnogi busnesau lleol trwy arddangos cod QR Darganfod y Rhyl, wedi ei bweru gan QR Boxx, mewn partneriaeth ag Ardal Gwella Busnes (AGB) y Rhyl.
EVA Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n cynrychioli perchnogion cerbydau trydan ar draws y wlad ac yn anelu i gefnogi swyddogaeth cerbydau nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Dywedodd Paul Martin, o EVA Cymru: “Mae’r safle gwefru cerbydau trydan yn y Rhyl yn adnodd gwych i yrwyr cerbydau trydan lleol a rhai sy’n ymweld ac yn dangos ymrwymiad parhaus Cyngor Sir Ddinbych i ddatgarboneiddio cludiant i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
“Bydd y safle newydd hwn yn cefnogi buddiannau perchnogion cerbydau trydan presennol a hefyd helpu’r rhai sydd â diddordeb ond nad oes ganddynt gyfleusterau gwefru yn y cartref i symud at gerbydau trydan.
“Mae’r Cyngor wir ar y blaen o ran cefnogi cludiant cerbydau trydan a bydd y canolbwynt hwn, ynghyd â chyfleusterau sirol eraill yn rhoi gwir hyder i yrrwyr cerbydau trydan sy’n teithio yn yr ardal.
Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dylunnir y safle yn y Rhyl i helpu’r rhai nad oes ganddynt barcio oddi ar y stryd sydd eisiau symud at gerbydau trydan, i wneud hynny yn yr ardal leol.
“Fe’i dyluniwyd hefyd i gefnogi busnesau yn y Rhyl trwy ddarparu cyfleusterau gwefru i yrrwyr cerbydau trydan sy’n ymweld a fydd yn gallu darganfod siopau a sefydliadau’r dref sydd ond ychydig gamau o’r maes parcio. Gall gyrwyr sy’n teithio ar draws Gogledd Cymru hefyd ddod o hyd i’r canolbwynt ar y map, gan ei ddefnyddio fel lle i wefru eu cerbydau a fydd yn annog mwy o fusnes yn y Rhyl.
“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yr adnodd yn helpu busnesau lleol megis cwmnïau tacsis i symud at fwy o gerbydau trydan gan wybod y gallant ddefnyddio’r adnodd hwn.
“Mae’r canolbwynt hwn wedi ein helpu i ehangu ein hisadeiledd gwefru i gyd-fynd â chael gwared â cherbydau tanwydd ffosil, gan ostwng ôl-troed carbon y sir. Bydd ein gwasanaeth gwefru cerbydau trydan yn tyfu hyd yn oed ymhellach wrth ychwanegu mwy o wefrwyr mewn meysydd parcio cyhoeddus yn y dyfodol agos.”