Mae Cyngor Sir Ddinbych yn symud ymlaen â chynlluniau i ddiogelu dyfodol tirnod pwysig.
Mae’r Cyngor wedi ildio prydles Castell Bodelwyddan gan alluogi i ddyfodol y safle hanesyddol gael ei ddiogelu a rhoi hwb economaidd i’r ardal leol. Roedd yr Ymddiriedolaeth yn hysbysebu ei brydles ar werth, serch hynny roedd modd i’r Cyngor gaffael y brydles am lai na hanner y pris a ofynnwyd.
Yn ddiweddar gwerthodd y Cyngor y rhydd-ddaliad ar y Gwesty drws nesaf i’r Castell i Bourne Leisure (is-gwmni Warner) ac mae Bourne Leisure bellach yn prynu rhydd-ddaliad ar y Castell.
Bydd Bourne Leisure yn cymryd perchnogaeth swyddogol o’r Castell fis nesaf.
Bydd y Cyngor yn cadw’r coetir, y ddôl o flaen y Castell a maes parcio er mwyn i’r cyhoedd allu cael mynediad i’r tir sy’n amgylchynu’r Castell. Gwasanaeth Cefn Gwlad y Sir fydd yn rheoli’r tir yma.
Bydd y parcdir sydd yn destun tenantiaeth amaethyddol yn cael ei gadw a’i reoli ar y cyd â thir a ffermydd amaethyddol eraill y Cyngor.
Bydd y lodge bychan ar derfyn dwyreiniol y stad yn cael ei gadw gan y Cyngor hefyd nes ceir adolygiad o'i ddefnydd.
Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol: “Rydym ni’n falch iawn ein bod wedi gallu helpu i sicrhau dyfodol tirnod hanesyddol poblogaidd yn Sir Ddinbych. Bydd y datblygiad cyffrous yma’n helpu i godi proffil Sir Ddinbych fel lleoliad twristiaeth i fwynhau aros yma ac fe fydd yn dod â hwb economaidd pwysig i’r cymunedau cyfagos.
“Mae’r Cyngor hefyd yn cydnabod ased mor bwysig ydi’r safle i bobl sy’n byw yn yr ardal a dyna pam ein bod eisiau cadw’r parcdir dan berchnogaeth gyhoeddus er mwyn i bobl barhau i fwynhau’r tir hyfryd sy’n amgylchynu’r castell.
“Rydym ni hefyd yn ddiolchgar am ymrwymiad a chymhelliant Bourne Leisure i gadw’r safle ac am eu gwaith i ddod â’r hwb yma i’r economi leol pan fyddant yn cymryd perchenogaeth o brif adeilad y Castell.”
Dywedodd llefarydd ar ran Bourne Leisure:
“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi dod i gytundeb gyda Chyngor Sir Ddinbych i brynu’r rhydd-ddaliad.
“Mae Warner Leisure Hotels wedi rhedeg Gwesty Castell Bodelwyddan ers 1994, y flwyddyn y daethom i fod y gadwyn o westai cyntaf ar gyfer oedolion yn unig yn y DU – a thros y 26 mlynedd diwethaf rydym wedi croesawu dros 500,000 o westeion i aros a mwynhau hyfrytwch Sir Ddinbych, gan gefnogi swyddi a’r economi leol.
“Mae’r cyfle yma’n gyffrous iawn i ni wella’r safle ymhellach i’n gwesteion ei fwynhau.”