Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych heddiw wedi rhoi sicrwydd i rieni, staff ysgol a llywodraethwyr y Sir ei fod wedi cymryd camau i ganfod cadernid strwythurol ei adeiladau yn wyneb pryder cenedlaethol am y defnydd o RAAC mewn adeiladau cyhoeddus.

Mae’r defnydd o goncrit diffygiol wedi arwain at gau ysgolion yn Lloegr ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd arolwg o adeiladau yng Nghymru.

Mae Cyngor Sir Ddinbych eisoes wedi cwblhau arolygon o’i adeiladau ar ôl i’r mater gael ei godi drwy’r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn 2019/20. Mewn ymateb i hyn, cwblhaodd y Cyngor broses ddeublyg. Roedd Cam 1 yn cynnwys adolygiad o'r holl stoc adeiladau yn seiliedig ar ddeunyddiau adeiladu hysbys, y dulliau a ddefnyddiwyd yn ei adeiladau o arolygon blaenorol, manylebau, a gwybodaeth syrfëwr. Yn seiliedig ar yr adolygiad hwn, nododd yr ail gam pa adeiladau allai fod â RAAC neu ble nad oedd digon o wybodaeth i wneud dyfarniad.

Yn dilyn hyn, comisiynwyd arolygon o 105 o adeiladau yn 2021 i ganfod a oedd RAAC yn bresennol. Roedd yr arolygon manwl hyn ar amrywiaeth o adeiladau'r Cyngor, nid ysgolion yn unig. Cafwyd canlyniadau negyddol ym mhob arolwg.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal adolygiad o’r wybodaeth sydd ganddo ar hyn o bryd i benderfynu a oes angen arolygon pellach ac i gyfarwyddo unrhyw brosesau a roddir ar waith gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, “Mae sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn gallu mynychu’r ysgol mewn amgylchedd diogel yn hollbwysig a diolch i dîm asedau’r Cyngor, sydd wedi cwblhau gwaith gwych yn cynnal arolygon parhaus o’n hadeiladau, gall rhieni fod yn hyderus bydd eu plant yn parhau i ddysgu mewn ysgolion sy'n addas i'r diben.

“Mae’r gwaith a wneir gan y tîm yn golygu y gall disgyblion ddechrau’r tymor newydd fel y cynlluniwyd, gan nad oes tystiolaeth i awgrymu bod unrhyw rai o’r adeiladau mewn perygl. Bydd y Cyngor, wrth gwrs, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnal arolygon o bob adeilad ysgol os oes angen.”

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, “Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o’i fuddsoddiad parhaus yn addysg pobl ifanc y Sir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae dros £90 miliwn wedi’i fuddsoddi yn ysgolion y Sir gyda phum adeilad ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn Rhuthun, Ysgol Carreg Emlyn yng Nghlocaenog, Ysgol Llanfair yn Llanfair Dyffryn Clwyd, Ysgol Gatholig Crist y Gair, y Rhyl ac Ysgol Uwchradd y Rhyl, tra adeiladwyd estyniad sylweddol yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy ac yn Ysgol Gymunedol Bodnant ac Ysgol Bro Dyfrdwy, Cynwyd.

“Yn ogystal, mae cynlluniau ar waith i gyflawni buddsoddiadau pellach mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, gyda chynigion yn cael eu datblygu ar gyfer cyfleuster newydd yn Ysgol Plas Brondyffryn, Dinbych ynghyd â buddsoddiad pellach yn Ysgol Pendref ac Ysgol Uwchradd Dinbych yn Ninbych, ac yn Ysgol Bryn Collen ac Ysgol y Gwernant yn Llangollen.”


Cyhoeddwyd ar: 04 Medi 2023