Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar adfer Tŵr Cloc Cofeb Joseph Peers rhestredig gradd II yn Sgwâr Sant Pedr yn Rhuthun, bellach wedi’i gwblhau.
Derbyniodd Cyngor Sir Ddinbych gadarnhad bod £10.95 miliwn wedi’i ddyfarnu gan Lywodraeth y DU ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd i gefnogi datblygu 10 prosiect gyda’r nod o warchod treftadaeth unigryw Rhuthun, lles ei phobl a’i chymunedau gwledig.
Mae Pwyllgor Tŵr Cloc Rhuthun yn grŵp cymunedol cyfansoddiadol a sefydlwyd ym mis Chwefror 2021 gyda’r bwriad o adfer cloc y dref mor agos â phosibl i’w gyflwr gwreiddiol a’i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Cefnogwyd hyn gan Gyngor Tref Rhuthun.
Cafodd y prosiect ei gynnwys o fewn cais y Cyngor i Lywodraeth y DU a derbyniwyd mwy o gyllid gan Gronfa Cymuned Fferm Wynt Clocaenog a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i gwblhau’r gwaith adfer.
Wedi’i adeiladu’n wreiddiol ym 1883 i nodi Joseph Peers, yr Ynad Heddwch lleol, mae Cloc Tref Rhuthun â hanes cyfoethog. Wedi’i ddylunio mewn arddull gothig gan y pensaer Fictoraidd John Douglas, roedd y cloc yn gweithio’n wreiddiol fel amserydd, i reoleiddio’r cyflenwad nwy ar gyfer goleuadau stryd y dref.
Dechreuodd y gwaith ar y safle ar ddiwedd mis Awst, gydag adferiad y gwaith cerrig gan gontractwr cadwraeth adeiladau profiadol o Sir Ddinbych, R. Moore Building Conservation Ltd.
Cafodd y prosiect ei oruchwylio gan bensaer cadwraeth, ac aethpwyd i’r afael ag amryw o broblemau a amlygwyd yn yr adroddiad cyflwr a gyflawnwyd yn 2021. Roedd yr adroddiad yn nodi staenio a chrwst llygredd aer, twf mwsogl a llystyfiant a gwaith cerrig wedi difrodi.
Cafodd y cloc, yn ogystal â cheiliog y gwynt hefyd eu tynnu o’r tŵr cloc ar ddechrau’r gwaith a’u hadnewyddu oddi ar y safle cyn cal eu gosod yn ôl pan gafodd y gwaith adfer ei gwblhau.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Hoffwn ddiolch i Bwyllgor Tŵr Cloc Rhuthun a Chyngor Tref Rhuthun, am gydweithio a chefnogi Cyngor Sir Ddinbych i sicrhau’r cyllid arwyddocaol, i gyflawni gwaith adfer gwerthfawr i’r adeilad hanesyddol.
“Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod yr hanes sydd gennym yn y Sir, ac mae prosiectau fel y rhain yn sicrhau y gallwn addysgu cenedlaethau’r dyfodol hefyd”.
Dylai trigolion lleol sydd eisiau gwybod mwy am y prosiect neu ddigwyddiadau cymunedol sy’n digwydd yn Rhuthun, anfon e-bost at levellingup@denbighshire.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.