Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwneud newid hinsawdd yn egwyddor arweiniol yn ei broses gwneud penderfyniadau.

Llynedd fe ddatganodd y Cyngor argyfwng newid hinsawdd ac ecolegol a oedd yn cynnwys ymrwymiad i wneud yr awdurdod yn un di-garbon net erbyn 2030, gwella bioamrywiaeth ledled y sir ac i alw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ac adnoddau i alluogi’r Cyngor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Pleidleisiodd y Cyngor Llawn heddiw (13 Hydref) yn unfrydol dros ddiwygio’r cyfansoddiad fel bod pob penderfyniad a wneir yn ‘rhoi ystyriaeth i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac ecolegol’.

Dywedodd y Cynghorydd Graham Timms, Cadeirydd Gweithgor Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol y Cyngor: “Mae’r penderfyniad hwn yn dangos yr ymrwymiad y mae Cyngor Sir Ddinbych wedi’i wneud i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac ecolegol. Wrth wneud newid hinsawdd ac ecolegol yn rhan o’n proses gwneud penderfyniadau, rydym yn gobeithio y gallwn gyfyngu ar effaith y Cyngor ar newid hinsawdd ac ecolegol rhag gwaethygu ymhellach ac i wella cyfleoedd i wneud cyfraniad cadarnhaol.

“Credwn mai ni yw’r Cyngor cyntaf yng Nghymru i gymryd cam o’r fath.”

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd: “Mae hwn yn gam cadarnhaol i’r Cyngor ac rydym yn parhau i weithio ar sicrhau bod y Cyngor yn lleihau ei ôl troed carbon ac yn cynyddu bioamrywiaeth yn y sir.

“Rydym eisoes wedi cyflawni llawer, rydym wedi lleihau allyriadau carbon o 15% o'n hadeiladau a’n fflyd ers 2017, erbyn hyn mae’r Cyngor ond yn defnyddio trydan adnewyddadwy ar gyfer ei adeiladau ar ôl newid i ddarparwr ynni adnewyddadwy yn unig ar gyfer ei ysgolion, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, swyddfeydd y cyngor a depos, rydym dros hanner ffordd o gyrraedd ein targed o blannu 18,000 o goed erbyn 2022.

“Bydd ein Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol a’r Cynllun Gweithredu i gael y Cyngor yn gyngor di-garbon net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030, y gwnaethom ymgysylltu â’r cyhoedd arno ar ddechrau’r flwyddyn, yn barod ar gyfer dechrau'r flwyddyn nesaf. Rydym yn bwriadu ymgynghori â’r cyhoedd ar y strategaeth ddrafft fis Tachwedd.”

 


Cyhoeddwyd ar: 13 Hydref 2020