Mae atyniadau hanesyddol Carchar Rhuthun a thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre yn cynnig cipolwg cyfareddol ar fywyd lleol adeg y rhyfel yn Rhuthun, ac mae gweithgareddau ychwanegol ar y gweill i goffau dathliadau Diwrnod VE yn 1946.
Yn nodweddion amlwg o hanes lleol Rhuthun, mae’r ddau le yn dweud ei hanes ei hun o adeg y rhyfel drwy daith sain ac arddangosfeydd rhyngweithiol addysgiadol fel bod ymwelwyr o bob oed yn darganfod bywyd yn y cyfnod.
Yng Ngharchar Rhuthun, mae’r stori’n cael ei hailadrodd am hanes y carchar hanesyddol fel ffatri arfau, a elwid yn y wasg ar y pryd yn ‘Ffatri Ryfeddaf Prydain’. Mae’r merched fu’n gweithio yno yn adrodd hanes bywyd fel ‘Munitionette’.
Yn Nantclwyd y Dre, mae’r cyntedd mawreddog wedi cael ei neilltuo i gyfnod y rhyfel, yn darlunio bywyd teuluol y cyfnod drwy gopïau o arteffactau, seinwedd difyr a chyfle i ymwelwyr iau ddysgu am ddogni wrth iddynt gwblhau pasbort rhywun sy’n teithio’n ôl mewn amser.
Ochr yn ochr â’r arddangosfeydd parhaol, ddydd Sadwrn 10 Mai, gwahoddir yr ymwelwyr i gymryd rhan mewn llu o weithgareddau chwaraeon traddodiadol, wedi’u hysbrydoli gan raglen o ddigwyddiadau dathlu arbennig a gynhaliwyd yn Rhuthun drwy gydol 1946.
O ras wy ar lwy a ras gyfnewid bagiau ffa yn yr iard ymarfer yn y Carchar, i ras mewn sach a ras tair coes yn y gerddi yn Nantclwyd y Dre, bydd ymwelwyr yn gallu cael blas o’r diwrnod allweddol fel y gwnaeth y trigolion lleol bron i 80 mlynedd yn ôl.
Meddai Carly Davies, Swyddog Arweiniol Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych:
“Bwriad y ffordd rydym yn dweud hanes rhyfel pob un o’n safleoedd hanesyddol a’r gweithgareddau ychwanegol Diwrnod VE ar y 10fed yw dod â hanes yn fyw mewn ffordd ymarferol a difyr.
“Mae cyfnod y rhyfel yn bennod mor arwyddocaol yn hanes Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre, ac rydym yn gobeithio, drwy’r gweithgareddau ac arddangosfeydd hyn y bydd ymwelwyr yn gadael gyda gwell dealltwriaeth o’r hyn oedd bywyd yma yn Rhuthun.”
Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae’r Carchar a Nantclwyd y Dre yn sefydliadau sydd â gwerth hanesyddol sylweddol, ac mae’n bwysig ein bod yn cofio ac yn dathlu’r hanes sydd ar garreg ein drws. Mae’r gweithgareddau hyn a gynhelir i goffau dathliadau Diwrnod VE yn cynnig ffordd wahanol o gofio diwrnod arwyddocaol yn ei hanes.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych drwy heritage@denbighshire.gov.uk neu ewch i’n tudalen treftadaeth i weld amseroedd agor a manylion mynediad.