Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae dau bwynt gwefru cerbydau trydan newydd wedi'u gosod mewn maes parcio ym Mhrestatyn

Mae dau bwynt gwefru cerbydau trydan newydd wedi'u gosod mewn maes parcio ym Mhrestatyn.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi troi ymlaen dau bwynt gwefru ym maes parcio arhosiad byr Rhodfa Brenin. Bydd pob dyfais wefru 50kw yn darparu cyfleusterau gwefru ‘cyflym’ dros bedwar bae parcio cwbl hygyrch.

Mae’r prosiect diweddaraf hwn yn rhan o gamau gweithredu’r Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 a mabwysiadu’r Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol yn 2021.

Sicrhawyd cyllid ar gyfer y dyfeisiau gwefru ‘cyflym’, sy’n gallu gwefru’r rhan fwyaf o fatris cerbydau i 80% mewn llai nag awr, gan Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Llywodraeth Cymru.

Mae’r ddwy ddyfais wefru newydd yn ychwanegol at waith sy’n cael ei wneud i ddarparu pwyntiau gwefru cyflym i’r cyhoedd eu defnyddio mewn wyth maes parcio cyhoeddus yn Sir Ddinbych.

Disgwylir i’r gwaith ar safle Rhodfa Brenin gael ei orffen erbyn diwedd mis Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ni’n falch iawn o allu cyflwyno’r pwyntiau gwefru ychwanegol hyn ar gyfer cerbydau trydan ym Mhrestatyn, ochr yn ochr â'r cyfleuster lleol cynlluniedig arall yn Fern Avenue.

Fe fydd y pwyntiau gwefru hyn yn cefnogi ein gwaith pwysig o ran newid hinsawdd a byddant o fantais glir i aelwydydd gerllaw lle nad oes cyfleusterau gwefru oddi ar y ffordd.

“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd y cyfleuster newydd hwn yn annog perchnogion cerbydau trydan i ddod i Brestatyn a gwefru eu cerbydau yn y maes parcio wrth siopa’n lleol, er mwyn cefnogi’r nifer o fusnesau sydd yn y dref.”

 


Cyhoeddwyd ar: 08 Mehefin 2022