Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae’r teuluoedd cyntaf o Wcráin wedi cyrraedd Sir Ddinbych fel rhan o Gynllun Adsefydlu’r DU.

Mae teuluoedd wedi dechrau cyrraedd y sir, gyda 19 aelwyd arall wedi’u cymeradwyo gan Gyngor Sir Ddinbych fel rhan o’r cynllun cenedlaethol.

Mae’r Cyngor yn parhau i gysylltu â theuluoedd sy'n derbyn ffoaduriaid er mwyn cynnal y gwiriadau angenrheidiol cyn y gellir eu cymeradwyo.

Mae gan Sir Ddinbych hanes hir o ddarparu llety i ffoaduriaid a’u cefnogi, a dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi adsefydlu 25 o deuluoedd, a oedd yn cynnwys 95 o unigolion, yn bennaf trwy ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid yn Syria ac Affganistan.

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro Gwasanaethau Cymorth Cymunedol: “Rydym yn falch o fod wedi gallu croesawu’r teuluoedd cyntaf sydd wedi cyrraedd Sir Ddinbych.

“Mae’r Cyngor yn gweithio i sicrhau bod y gefnogaeth berthnasol ar gael i deuluoedd pan fyddant yn cyrraedd Sir Ddinbych. Mae hyn yn cynnwys ein tîm addysg sy’n prosesu ceisiadau am leoedd ysgol.

“Trwy gyllid y Swyddfa Gartref, rydym mewn sefyllfa dda i ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol ac mae gennym weithgor i reoli’r rhaglen, yn ogystal â thîm ymroddedig sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd, a chefnogaeth ychwanegol gan bartneriaid yn y trydydd sector a gan grwpiau gwirfoddolwyr lleol.

“Mae nifer o breswylwyr Sir Ddinbych wedi bod yn cynnig llety i’r rhai sydd wedi’u gorfodi i adael Wcráin oherwydd y gwrthdaro parhaus, ac ar ran y Cyngor, hoffwn ddiolch iddynt am eu haelioni.

“Rydym yn parhau â’r broses o gysylltu â phreswylwyr sydd wedi cynnig llety er mwyn trefnu’r gwiriadau perthnasol cyn i ni allu symud i’r cam nesaf.”

Os oes gan unrhyw un unrhyw ymholiadau, neu os hoffent gynnig llety, dylent anfon e-bost at ukresettlement@denbighshire.gov.uk ac mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy fynd i https://llyw.cymru/cartrefi-i-wcrain-canllawiau-i-noddwyr-html


Cyhoeddwyd ar: 26 Ebrill 2022