Mewn cydweithrediad â Hey Girls, ac wedi’i ariannu gan Gronfa Urddas Mislif Llywodraeth Cymru 2022/23, mae Cyngor Sir Ddinbych yn darparu'r gwasanaeth tanysgrifio ar gyfer pobl ifanc yn Sir Ddinbych.
Mae’r tanysgrifiad ar gael i breswylwyr yn Sir Ddinbych a phobl ifanc sydd ar gofrestr ysgol yn Sir Ddinbych, ac yn cynnig cynnyrch eco-gyfeillgar am ddim a dim plastig y gellir ei ailddefnyddio neu rhai untro. Os ydynt dros 18 oed, mae’n rhaid i gyfranogwyr fyw yn Sir Ddinbych a chael budd-dal incwm isel megis credyd cynhwysol, cymhorthdal incwm, credyd treth plant i fod yn gymwys.
Mae’r gwasanaeth yn darparu cynnyrch hylendid am 6 mis, neu gall ddefnyddwyr ddewis cael un danfoniad o gynnyrch y gellir ei ailddefnyddio. Mae ystod eang o becynnau ar gael, gan ganiatau’r opsiwn o ddewis bwndeli cymysg.
Mae’r Cyngor yn cydweithio gyda Hey Girls i ddarparu’r gwasanaeth hwn. Mae rhagor o wybodaeth am Hey Girls ar gael yn https://www.heygirls.co.uk/learn/you, lle cewch wybodaeth am eu cynnyrch a sut i’w ddefnyddio.
Bydd y cynnyrch yn cael eu danfon bob dau fis, gyda digon o gyflenwad i bara am 2 fis. Bydd cyfanswm o dri danfoniad am gynnyrch untro, a bydd cynnyrch y gellir eu hailddefnyddio yn cael eu danfon unwaith yn unig.
Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Mae hwn yn gynllun hanfodol, yn cynnig preifatrwydd a disgresiwn, sy’n darparu cynnyrch hylendid i’r rhai na fyddai fel arall yn gallu cael mynediad atynt yn hawdd oherwydd rhwystrau ariannol neu eraill.
Mae cynnyrch untro a rhai gellir eu hailddefnyddio ar gael, gyda’r opsiwn o ddewis bwndeli cymysg, gan roi dewis i ddefnyddwyr i ddod o hyd i’r cynnyrch sydd yn addas i’w hanghenion unigol, ac anogaf bawb sydd yn gymwys i gofrestru ar gyfer y cynllun hwn i wneud y mwyaf o’r argaeledd.
Dengys ymchwil bod urddas mislif yn hanfodol ar gyfer lles a chael gwared ar rwystrau i lwyddo mewn addysg ac yn y gweithle.
Diolch i gyllid pwysig Llywodraeth Cymru a gweithio ar y cyd gyda’n partneriaid, rydym eisiau sicrhau bod yr urddas hwn yn parhau ar draws Sir Ddinbych, waeth beth yw’r amgylchiadau.”
I wneud cais ar gyfer y cynllun, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i:
https://www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac-ysgolion/lles-mewn-ysgolion/urddas-mislif.aspx