Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae ffigurau nifer yr ymwelwyr â Chanol y Dref ar gyfer y flwyddyn 2022 yn dangos bod canol tref y Rhyl wedi gweld cynnydd o 111,400 o’i gymharu â ffigurau 2021.

Ffigur nifer yr ymwelwyr â chanol tref y Rhyl ar gyfer 2021 oedd 739,263, a’r nifer ar gyfer 2022 oedd 850,663.

Nifer yr ymwelwyr yw nifer y bobl sy’n mynd i siop neu ardal yn ystod amser penodol ac mae tystiolaeth ei bod yn ffordd gywir o fesur pa mor brysur yw tref neu ddinas dros gyfnodau penodol. Caiff ffigurau o ran nifer yr ymwelwyr eu casglu o bob tref a dinas yn seiliedig ar nifer y bobl sy’n mynd heibio i synhwyrydd electronig bob dydd.

Caiff ystadegau o ran nifer yr ymwelwyr eu rhyddhau flwyddyn yn ddiweddarach, sy'n golygu y bydd ystadegau 2023 ar gael y flwyddyn nesaf.

Chwarter 3 (mis Gorffennaf i fis Medi) oedd chwarter prysuraf y Rhyl y llynedd ac mae’r ffigurau o ran nifer yr ymwelwyr yn dangos 227,229. Mae Chwarter 3 yn un o’r adegau mwyaf poblogaidd i ymwelwyr a thwristiaid, wrth i ddigwyddiadau fel Sioe Awyr y Rhyl hefyd ddenu torfeydd enfawr bob blwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’n wych gweld bod niferoedd canol tref y Rhyl wedi cynyddu unwaith eto.

Mae’r ffaith bod dros dri chwarter miliwn o bobl wedi ymweld â chanol tref y Rhyl y llynedd yn galonogol iawn.

Mae’r Rhyl yn lle cyffrous i ymweld ag ef a byw ynddo, ac mae llawer o bethau i’w gwneud ac i’w gweld yma ac rwy’n falch bod y ffigurau’n adlewyrchu hynny hefyd. Rydym yn gweithio’n galed ar nifer o brosiectau i helpu i wella cynnig Rhyl i ymwelwyr a thrigolion”.


Cyhoeddwyd ar: 26 Gorffennaf 2023