Mae'r gwaith mewnol yn adeilad Marchnad y Frenhines yn y Rhyl yn mynd yn ei flaen yn dda, gyda nifer o nodweddion allweddol bellach wedi'u gosod ar y safle hanesyddol.
Dechreuodd cam cyntaf y gwaith mewnol ym mis Chwefror yn y datblygiad newydd, sy'n cynnwys 16 o unedau bwyd a manwerthu unigol, bar dwy ochr, a gofod digwyddiadau hyblyg mawr sy'n gallu cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau.
Mae gosod y seddi mainc ar y llawr isaf a'r seddi steil bwth ar y llawr mesanîn wedi'u cwblhau. Mae mwy o seddi i'w gosod yn ystod y cam hwn o'r gwaith. Mae gwaith plymio a thrydanol integredig o fewn yr unedau bwyd poeth bellach wedi'i gwblhau hefyd.
Yn ogystal â hyn, mae gosod y bar, y llwyfan, y goleuadau a'r PA, y wal nodwedd a'r arwyddion mewnol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, yn ogystal â gwaith angenrheidiol arall.
Wedi'i leoli yng nghanol y Rhyl, mae cyfleuster Marchnad y Frenhines wedi bod yn dirnod eiconig yn y dref ers dros ganrif, gyda'r datblygiad diweddaraf hwn yn rhoi bywyd newydd i'r gofod. Mi fydd y Farchnad yn agor yn yr Haf.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae adeiladau Marchnad y Frenhines wedi chwarae rhan arwyddocaol yn hanes y Rhyl am dros 120 mlynedd.
Mae’r datblygiad newydd hwn yn bennod newydd gyffrous yn hanes cyfoethog y safle, gyda’r lleoliad modern, amlbwrpas hwn yn cynnig bwyd o ansawdd uchel a mannau manwerthu i bobl y Rhyl, ac rwy’n falch o weld bod y datblygiadau mewnol yn symud ymlaen yn dda.
Mae’r prosiect hwn yn rhan annatod o’r gwaith adfywio ehangach yn y Rhyl, sydd wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn y dref dros y flynyddoedd diwethaf. Mae hefyd yn galonogol gweld y gwaith hwn yn dechrau dwyn ffrwyth, gan ein bod wedi gweld nifer o fusnesau newydd yn agor yn y dref eleni.
Gyda’r gwaith Amddiffyn o’r Môr i fod i orffen eleni, yn ogystal â chyllid a ddyfarnwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU, mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r Rhyl a Sir Dinbych yn ei chyfanrwydd.”