Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Llun o hysbyseb wedi'i phaentio a ddadorchuddiwyd ar ochr rhif 119 fel rhan o'r gwaith dymchwel.

Mae gwaith i ddymchwel adeilad anniogel ar Stryd Fawr y Rhyl wedi'i gwblhau.

Mae'r gwaith o ddymchwel 123-125 Stryd Fawr wedi'i wneud i ddiogelu’r safle yn dilyn arolwg gan beirianwyr adeileddol a oedd o'r farn bod yr adeilad yn anniogel ac yn berygl i'r cyhoedd.

Mae cynnydd ar y gwaith dymchwel yn golygu bod y Stryd Fawr Isaf bellach ar agor i draffig.

Y Contractwyr Wye Valley Construction wnaeth y gwaith dymchwel ar ran Cyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad y Cyngor: "Roedd angen dymchwel yr adeiladau hyn er mwyn cadw'r cyhoedd yn ddiogel.

"Mae'r gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl tra'n sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn ddiogel. Rydym yn gwerthfawrogi'r aflonyddwch a achoswyd gan gau'r ffordd a hoffem ddiolch i fusnesau ac aelodau'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.

"Mae'r adeilad hwn yn chwarae rhan yn ein gweledigaeth ehangach i adfywio Canol Tref y Rhyl a bydd yn ategu gwaith datblygu arall sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn.

"Er nad oes unrhyw gynlluniau ffurfiol wedi'u llunio na'u mabwysiadu ar gyfer y safle, byddwn yn gweithio gyda'r gymuned ac yn cynnal ymgynghoriad llawn ar unrhyw gynlluniau, a fydd yn ddarostyngedig i'r broses gynllunio, wrth iddynt ddatblygu."


Cyhoeddwyd ar: 08 Ebrill 2022