Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi penderfynu yn erbyn dilyn cynlluniau ar gyfer llety dros dro i'r digartref ym Maes Emlyn yn Y Rhyl.

Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf i drafod y cynlluniau i ail-ddefnyddio Maes Emlyn dros dro fel llety brys i'r digartref, clywodd Cynghorwyr Sir a Swyddogion y Cyngor gan drigolion am eu pryderon am y cynlluniau.

Ar ôl gwrando ar adborth yn y cyfarfod hwn, ac yn dilyn cyfarfodydd pellach gyda Swyddogion lle archwiliwyd opsiynau eraill, penderfynwyd nad y cynnig hwn yw'r opsiwn gorau i'w ddilyn dim mwy.

Dywedodd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Fel Cyngor, mae’n bwysig ein bod yn gwrando ar farn trigolion ac er nad oedd penderfyniad wedi’i wneud ynglŷn â Maes Emlyn, roedd y trafodaethau yn y cyfarfod yn egluro’r angen i ni dilyn opsiwn gwahanol.

“Ein cynllun hirdymor erioed oedd i safle Maes Emlyn gael ei ailddatblygu yn Dai Cyngor parhaol yn y pen draw. Bydd swyddogion nawr yn dechrau ar y broses gynllunio ar gyfer dymchwel yr holl adeiladau ac ailddatblygu’r safle i greu datblygiad cymysg o Dai Cyngor newydd ar gyfer cartrefi parhaol.”

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dal i wynebu'r her o ddarparu llety addas i drigolion digartref Sir Ddinbych. Roedd Maes Emlyn yn rhan o gynllun ehangach i ddarparu llety brys dros dro yn y tymor canolig, gan ganiatáu i ni symud oddi wrth ddefnyddio Gwestai a llety Gwely a Brecwast yn y dref.

Y cynllun tymor hir yw datblygu mwy o dai cymdeithasol ar draws y Sir i ateb y galw yn well. Bydd y Cyngor yn parhau i ddilyn rhaglen o ddatblygiadau newydd i'r perwyl hwnnw ac i gefnogi'r strategaeth hon, bydd yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar gyda'r nod o atal digartrefedd, hyd at gefnogi'r trigolion hynny sy'n dod yn ddigartref. Bydd swyddogion yn gweithio gyda Byddin yr Iachawdwriaeth a phartneriaid eraill i effeithio ar hyn.

Bydd ymgynghoriad cyn-cynllunio ar gyfer y datblygiad newydd yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref lle bydd cyfle arall i drigolion rannu eu barn am y cynlluniau newydd.


Cyhoeddwyd ar: 01 Awst 2023