Mae ardal newydd yn cael ei greu i breswylwyr a natur ei fwynhau yng Nghlocaenog.
Mae’r gwaith yn mynd rhagddo ers dechrau’r flwyddyn ar Ardal Natur Gymunedol Clocaenog y tu ôl i adeilad yr hen ysgol gyda chefnogaeth ffermwr sydd wedi caniatáu mynediad trwy ei gaeau.
Mae’r ardal hon yn un o bedwar safle natur gymunedol newydd - ochr yn ochr ag ardaloedd tebyg yn Y Rhyl, Llanelwy a Henllan. Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad a thimau Newid Hinsawdd Cyngor Sir Ddinbych yn eu creu yn y sir eleni i hybu’r manteision i fywyd gwyllt lleol a lles preswylwyr.
Mae’r gwaith ar Ardaloedd Natur Gymunedol a chreu coetiroedd mewn ysgolion ar hyd a lled y sir eleni wedi cael arian drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Yn ystod y Pasg cafodd 18 o goed eu plannu ar y safle gan Geidwaid Cefn Gwlad i roi hwb i’r tir er mwyn cyrraedd nod y Cyngor i leihau ôl-troed carbon y sir trwy gyfrannu at y cyfanswm o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno) mewn llystyfiant a phridd.
Yn ystod yr haf mae ceidwaid a chontractwyr wedi bod yn gweithio’n galed yn creu llwybr troed, ffensys a giât mynediad, dwy fainc, un bwrdd picnic ac wedi creu ardal gyda phwll.
Yn y pendraw bydd carped o flodau gwyllt yn tyfu o amgylch y pwll er mwyn rhoi hwb i natur leol o gwmpas y pentref.
Yr Hydref hwn bydd gwaith pellach yn cael ei wneud ar y safle a fydd yn cynnwys plannu gwrychoedd ar ffin yr ardal a phedair coeden ffrwythau er budd natur a’r gymuned gyfagos.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dyma brosiect gwych sy’n creu cynefinoedd cadarn sy’n frith o rywogaethau i natur elwa ohonynt yn ogystal ag ardal gymunedol wych i breswylwyr a disgyblion yr ysgol leol i’w fwynhau ac i ddysgu am y bywyd gwyllt sy’n ymweld â’r tir.
“Bydd yr ardal natur gymunedol newydd hwn yn y pentref hefyd yn dod â manteision eraill gan gynnwys gwella ansawdd yr aer, oeri gwres trefol a chyfleoedd i gefnogi lles corfforol a meddyliol y gymuned wrth iddynt alw heibio’r ardal newydd gwych hwn.”