Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymddiheuro i bleidleiswyr post yn y sir am gamgymeriad mewn taflen wybodaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar gyda phapurau pleidleisio post.

Roedd y daflen wybodaeth yn cyfeirio at y papurau pleidleisio anghywir. Yn ogystal, roedd y daflen yn hysbysu pleidleiswyr eu bod nhw ond yn cael pleidleisio am un ymgeisydd yn unig, sydd yn anghywir ar gyfer y wardiau aml-gynghorydd ac ar gyfer etholiadau cynghorau tref a chymuned.

Mae'r pecynnau pleidleisio drwy'r post yn cynnwys y papurau pleidleisio cywir ar gyfer pob pleidleisydd. Nid oes unrhyw gamgymeriad ar y papurau pleidleisio - maent wedi'u hargraffu'n gywir ac yn cynnwys cyfarwyddiadau priodol i bleidleiswyr ar nifer y pleidleisiau y gallant eu bwrw.

 

Mae'r Cyngor wedi postio'r daflen wybodaeth gywir ar ei wefan ac wedi cysylltu â 6,900 o bleidleiswyr post a 285 o bobl eraill drwy negeseuon testun, gan roi gwybod iddynt am y gwall ar y daflen wybodaeth. Mae'r Cyngor hefyd yn anfon llythyr yn y post at bawb sydd wedi derbyn pleidlais bost i gywiro'r wybodaeth a dderbyniwyd yn wreiddiol. Mae llythyr hefyd yn cael ei anfon at bob ymgeisydd sy'n sefyll etholiad.

Dywedodd Graham Boase, Prif Weithredwr a Swyddog Canlyniadau Sir Ddinbych: “Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant i’r holl ymgeiswyr yn yr etholiadau sydd i ddod ac i’r holl aelodau hynny o’r cyhoedd a ofynnodd am bleidlais bost am y camgymeriad hwn.

“Er ei bod yn glir ar bob un o’r papurau pleidleisio faint o bleidleisiau y gellir eu gwneud fesul taflen bleidleisio, mae’r daflen wybodaeth sy’n cyd-fynd â’r papur pleidleisio yn rhoi gwybodaeth anghywir, a allai fod wedi arwain at rywfaint o ddryswch yn ddealladwy.

“Yn syth ar ôl i’r camgymeriad ddod i’r amlwg fe wnaethom gymryd pob cam lliniaru posib. Gofynnwyd am gyngor gan y Comisiwn Etholiadol a Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol ac anfonwyd e-bost a neges destun at bob pleidleisiwr post a oedd wedi rhoi'r manylion hynny inni. Ymddangosodd gwybodaeth hefyd ar wefan y Cyngor a thrwy ei sianeli cyfryngau cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth a chyngor tebyg.

“Ers i’r camgymeriad ddod i’r amlwg rwyf wedi ystyried ein hymateb yn ofalus ac yn credu, o ystyried bod y papurau pleidleisio yn cynnwys y cyfarwyddiadau cywir i bleidleiswyr, fod y pecyn o fesurau lliniaru yn briodol o dan yr holl amgylchiadau”.

Mae’r Uned Etholiadau yn ailddatgan y dylai pleidleiswyr post ddilyn y cyfarwyddiadau ar y papurau pleidleisio a sicrhau bod eu pleidleisiau post yn cael eu dychwelyd i’r Uned Etholiadau cyn 10pm ddydd Iau, 5ed Mai 2022.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor: www.sirddinbych.gov.uk/etholiadau. Os bydd unrhyw bleidleisyss post yn credu ei fod eisoes wedi dychwelyd ei becyn post ac wedi dilyn y wybodaeth anghywir, gallant, os dymunant, ofyn am becyn newydd drwy gysylltu â'r Uned Etholiadau ar 01824 706000 (Dydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 8.30am. a 5pm) neu drwy e-bost: etholiadau@sirddinbych.gov.uk


Cyhoeddwyd ar: 26 Ebrill 2022