Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych a Thrafnidiaeth Cymru wedi cydweithio i ymestyn y cynllun Fflecsi presennol o amgylch Dinbych.

Bydd pŵer trydan yn ymestyn cynllun cludiant cyhoeddus sy’n ymateb i alw gan y cyhoedd yn Ninbych.

Mae Cyngor Sir Ddinbych a Thrafnidiaeth Cymru wedi cydweithio i ymestyn y cynllun Fflecsi presennol o amgylch Dinbych.

Bydd Fflecsi 77 ar gael o 17 Gorffennaf ymlaen i dde-orllewin Dinbych, yn ogystal ag i ogledd-orllewin a gogledd-ddwyrain y dref. Nid yw’r ardal bresennol sy’n cynnwys canol tref Dinbych, yn ogystal â pharthau presennol yn Rhuthun a Phrestatyn, wedi newid.

Yn rhan o ddatganiad Argyfwng Hinsawdd y Cyngor, fe lansiwyd cynllun Rhuthun yn llynedd gyda bws mini 16 sedd cyntaf erioed yn y wlad â sero allyriadau wedi’i bweru gan fatri, diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Bydd ail gerbyd trydan bellach yn pweru’r llwybr 77 newydd yn Ninbych.

Mae’r Cyngor wedi cyflwyno bws-micro Nissan Dynamo E-NV200 EV sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn a fydd yn cael ei ddefnyddio yn rhan o’r cynllun.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r Cyngor yn gweithio’n galed i leihau ei ddibynadwyedd ar gerbydau sy’n cael eu pweru gan danwydd ffosil lle y bo’n briodol. Rydym ni’n falch iawn ein bod yn gallu cyflwyno ail gerbyd trydan ar gyfer y gwasanaeth Fflecsi mewn partneriaeth gyda Thrafnidiaeth Cymru yn y sir yn dilyn llwyddiant cerbyd Rhuthun.

 

“Mae Fflecsi yn cynnig ateb sy’n gallu ymateb i anghenion teithwyr yn llawer mwy penodol. Mae ymestyn y gwasanaeth yn Ninbych wedi galluogi i ni gasglu teithwyr mewn mwy o leoliadau.”

 

Nodiadau i olygyddion

Bydd teithwyr yn gallu archebu eu cludiant seiliedig ar alw awr o flaen llaw trwy un ai lawrlwytho a defnyddio ap Fflecsi, ar wefan fflecsi.cymru neu trwy ffonio canolfan alwadau ddynodedig. Yna gall yr ap hysbysu’r cwsmer ynghylch unrhyw newidiadau yn yr amseroedd casglu.


Cyhoeddwyd ar: 13 Gorffennaf 2023