Mae disgyblion ysgol yn y Rhyl wedi helpu creu hafan newydd i fyd natur ar dir eu hysgol.
Bu Tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio â disgyblion Ysgol Crist y Gair yn ddiweddar er mwyn datblygu dôl flodau gwyllt newydd ar safle’r ysgol.
Mae hyn yn dilyn gwaith diweddar yn datblygu ardaloedd o wrychoedd a choetir yn yr ysgol gyda chymorth y disgyblion. Plannwyd 260 metr o wrychoedd ac 14 o goed safonol i helpu cynyddu bioamrywiaeth a’r canopi coed yn yr ysgol, er mwyn adfer byd natur a chynnig ardal les addysgol awyr agored i’r disgyblion.
Er mwyn creu’r ddôl flodau gwyllt newydd, bu’r disgyblion yn helpu’r Tîm Bioamrywiaeth i blannu 200 o blygiau blodau gwyllt a dyfwyd yn y Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari. Gan weithio gyda disgyblion Blwyddyn 10 a oedd wedi helpu plannu’r coed ar y safle’n flaenorol, creodd y Tîm Bioamrywiaeth ddôl 200 metr sgwâr o faint yng nghefn yr ysgol.
Eglurodd Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth: “Roedd yn brofiad gwych cael gweithio ochr yn ochr â disgyblion Ysgol Crist y Gair unwaith eto, sydd wedi bod mor wych yn ein helpu i greu cynefin gwerthfawr ar dir eu hysgol i gefnogi eu bioamrywiaeth leol. Diolch i’w cymorth nhw, llwyddom i blannu amrywiaeth o flodau gwyllt brodorol lleol yn eu dôl newydd, gan gynnwys Blodau neidr, Blodau ymenyn, y Bengaled, Melynydd, Bysedd y cŵn, Pys-y-ceirw a Pheradyl yr hydref.”
Bydd dôl flodau gwyllt newydd yr ysgol yn cynnig mwy o gefnogaeth i bryfed peillio ym myd natur yn ogystal ag yn cynnig buddion eraill fel gwell ansawdd aer, helpu lleihau llifogydd trefol, oeri gwres trefol, rhoi hwb i les corfforol a meddyliol a chynnig ardaloedd o ddiddordeb amrywiol i ddysgu a chwarae.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydyn ni wedi colli bron i 97 y cant o ddolydd blodau gwyllt yn y Deyrnas Unedig ers y 1930au, felly mae’r cymorth gwych hwn gan ddisgyblion Ysgol Crist y Gair yn hollbwysig i adfer byd natur yn yr ardal yn sgil y golled aruthrol honno. Bydd gweld mwy o flodau gwyllt yn dychwelyd i’n hardaloedd trefol yn helpu cynyddu bioamrywiaeth a lliw er mwyn i bawb gael mwynhau’r ardal, ac yn cynnig mwy o gefnogaeth i’r pryfed peillio sydd mewn perygl, sy’n rhan hanfodol o’r broses o roi bwyd ar ein byrddau.”