Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cysylltu â gwirfoddolwyr sydd wedi cynnig cartrefu teuluoedd o ffoaduriaid o'r Wcráin.

Fel rhan o'i ymrwymiad parhaus i gefnogi Cynllun Adsefydlu'r Deyrnas Unedig, mae'r Cyngor yn cysylltu â'r holl drigolion sydd wedi cynnig cymorth i'r rhai sydd wedi'u dadleoli gan y gwrthdaro.

Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac yn gwneud y trefniadau angenrheidiol i ddechrau ailsefydlu teuluoedd o'r Wcráin cyn gynted â phosibl.

Mae gan Sir Ddinbych hanes hir o gartrefu a chefnogi ffoaduriaid a thros y pum mlynedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi ailsefydlu 25 o deuluoedd, yn cynnwys 95 o unigolion, yn bennaf mewn ymateb i'r argyfwng ffoaduriaid yn Syria ac Afghanistan.

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth (dros dro) Gwasanaethau Cefnogi Cymunedau: “Mae nifer o drigolion Sir Ddinbych wedi dod ymlaen i gynnig llety i’r rhai sydd wedi cael eu gorfodi i adael y Wcráin oherwydd y gwrthdaro parhaus.

“Ar ran y Cyngor hoffwn ddiolch iddynt am eu haelioni.

“Rydym yn y broses o gysylltu â phreswylwyr sydd wedi cynnig llety i drefnu’r gwiriadau perthnasol cyn y gallwn symud i’r cam nesaf.

“Fel Cyngor rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod y gefnogaeth berthnasol ar gael i deuluoedd ar ôl iddynt gyrraedd Sir Ddinbych.

“Trwy gyllid y Swyddfa Gartref, rydym mewn sefyllfa dda i ddarparu’r cymorth angenrheidiol a chael gweithgor i reoli’r rhaglen, yn ogystal â thîm ymroddedig sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd, a chymorth ychwanegol gan bartneriaid yn y trydydd sector a chan grwpiau gwirfoddol lleol .”

Os oes gan unrhyw un unrhyw ymholiadau, neu os hoffent gynnig llety, dylent anfon e-bost at ukresettlement@denbighshire.gov.uk ac am ragor o wybodaeth ewch i:

https://llyw.cymru/cartrefi-i-wcrain-canllawiau-i-noddwyr-html


Cyhoeddwyd ar: 06 Ebrill 2022