Mae cais prosiect Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer Mynd i'r Afael ag Amddifadedd Sir Ddinbych sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn drwy Falchder Lle a'r Amgylchedd Naturiol wedi cael ei ddyfarnu dros dro fel rhan o gyllid trydedd rownd o’r Ffyniant Bro.
Gallai'r prosiect dderbyn hyd at £19,973,283, i'w ddefnyddio ar gyfer ystod o ymyriadau adfywio corfforol mewn ardaloedd difreintiedig iawn yn etholaeth Dyffryn Clwyd i wella canol trefi, gwella'r ymdeimlad o le a diogelwch, a chefnogi'r economi ymwelwyr a manwerthu i yrru twf lleol.
Mae'r dyfarniad dros dro o gyllid ar gyfer priosectau penodol yn unig, felly dim ond i gefnogi'r gweithgaredd a amlinellir yn y cais y gellir defnyddio'r arian, ac ni ellir ei ddefnyddio i gefnogi gweithgaredd sy'n sylweddol wahanol i'r paramedrau yn y cais.
Mae hyn yn golygu bod y Cyngor yn dal i wynebu'r pwysau cyllidebol sylweddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Amcangyfrifir y bydd darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd - gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, casglu gwastraff ac ysgolion, yn costio £26m yn ychwanegol oherwydd cynnydd mewn prisiau, chwyddiant, a phwysau ar alw. Er gwaethaf y cynnydd disgwyliedig mewn cyllid o £5.6m (3%) gan Lywodraeth Cymru, mae hyn yn dal i adael bwlch cyllido o £20.4m ar gyfer 2024/25
Fel pob Awdurdod Lleol ledled Cymru, rhaid i'r Cyngor ddod o hyd i arian ychwanegol drwy arbedion ac effeithlonrwydd, taliadau am wasanaethau, cynnydd yn Nhreth y Cyngor neu drwy leihau neu gwtogi gwasanaethau.
Cymeradwywyd y cais hwn gan Gabinet Cyngor Sir Ddinbych ar 14 Rhagfyr 2021 ac fe'i cyflwynwyd ym mis Awst 2022. Cawsom ein hysbysu gan Lywodraeth y DU ym mis Ionawr eleni nad oedd y cais hwn yn llwyddiannus. Oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers cyflwyno'r cais, bydd gwiriad dilysu prosiect byr i sicrhau y bydd y cais yn dal i elwa o gyllid y Llywodraeth ac yn parhau i fod yn flaenoriaeth leol, ac yn cael ei wario erbyn mis Mawrth 2026
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
"Er fy mod yn croesawu'r newyddion, ni fydd y taliad cyfalaf untro hwn yn mynd i'r afael â'r pwysau enfawr sydd ar ein gwasanaethau craidd ar ôl blynyddoedd o gynildeb.
Oherwydd paramedrau'r cyllid hwn, ni fydd modd ei ddefnyddio tuag at y bwlch ariannu sylweddol yr ydym ni fel Cyngor yn ei wynebu ar hyn o bryd. Cyn cyhoeddiad cyllideb y DU sydd ar fin digwydd yr wythnos hon byddwn yn galw ar Lywodraeth y DU i ariannu Cymru yn iawn.
Mae'r dyfarniad yn amodol, felly byddaf yn gweithio gyda swyddogion allweddol i sicrhau bod hyn yn cyflawni ein nodau wrth fynd i'r afael ag amddifadedd dwfn yn ein Sir."