Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Bydd gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Ddinbych yn gwirio pwysau carafanau a faniau gwersylla a rhoi cyngor diogelwch am ddim.

Drwy bartneriaeth â Safonau Masnach Conwy, gall trigolion sy’n bwriadu mynd ar wyliau mewn carafán neu fan wersylla gael gwiriad am ddim er mwyn sicrhau nad ydynt yn gorlwytho eu cerbydau a rhoi eu hunain mewn perygl.

Bydd swyddog o adain Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru wrth law i roi cyngor ymarferol ynglŷn â chadw’ch car a’ch carafán yn ddiogel.

Y bwriad yw cynghori pobl, ac ni fydd neb yn wynebu unrhyw gamau gweithredu os ydynt wedi gorlwytho, ond byddwn yn gweithio gyda chi i geisio ysgafnhau’r llwyth.

Gall pobl yn Sir Ddinbych a Chonwy gael gwiriadau pwysau hyn yn rhad am ddim ar y bont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amserau canlynol:

Dydd Sadwrn 17/07 – 8am - 12pm

Dydd Gwener 23/07 – 12pm - 4pm

Dydd Sadwrn 31/07 – 8am - 12pm

Dydd Mercher 11/08 – 12pm - 4pm

Dydd Gwener 27/08 – 9am - 2pm

Dydd Gwener 10/09 – 9am - 2pm

Dydd Gwener 24/09 – 9am - 2pm

Nid oes rhaid ichi wneud apwyntiad, dim ond dod i’r bont bwyso ar un o’r dyddiadau uchod i weld a yw pwysau’ch cerbyd o fewn y terfynau cyfreithiol.

Fe ddewch chi o hyd i’r bont bwyso ar ffordd yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy, tua thri chwarter milltir o Ruddlan, mewn cilfan, a bydd arwyddion i ddweud a yw’r bont ar agor.

 


Cyhoeddwyd ar: 12 Gorffennaf 2021