Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Adeiladau’r Frenhines

Mae gwaith dymchwel yn mynd rhagddo ar hyn o bryd fel rhan o waith ailddatblygu hen Adeiladau’r Frenhines, safle mawr yng nghanol y Rhyl.

Mae cyllid ar gyfer adeiladu cam cyntaf yr ailddatblygiad wedi’i sicrhau gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru ac mae’r cais cynllunio ar gyfer ailddatblygu’r safle wedi’i gyflwyno a disgwylir penderfyniad yn y misoedd nesaf.

Bydd cam cyntaf yr ailddatblygiad yn cynnwys neuadd fwyd a neuadd farchnad, man digwyddiadau a gwaith ailwampio i’r adeilad brics coch presennol ar Sussex Street, ynghyd â gwaith tirlunio ar gyfer gweddill y safle, yn amodol ar gamau datblygu’r dyfodol.

Caiff adroddiad ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor ar 27 Ebrill yn ceisio awdurdod i ddechrau’r broses gaffael i ganfod prif gontractwr ar gyfer Cam 1 trwy Bartneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru (NWCP) ar gyfer yr ailddatblygiad.

Pan fydd y broses gaffael wedi’i chwblhau, bydd y Cyngor yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet, ym mis Gorffennaf mae’n debyg, er mwyn dyfarnu’r contract yn swyddogol i’r contractwr llwyddiannus.

Dywedodd Graham Boase, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Economi a Pharth Cyhoeddus, Cyngor Sir Ddinbych: “Mae hwn yn brosiect enfawr ar gyfer adfywio’r Rhyl, bydd yn trawsnewid canol y dref, gan ei gysylltu â’r datblygiadau newydd ar hyd y Promenâd a’r traeth. Bydd cyfleoedd swyddi gwych i breswylwyr lleol yn ystod y cam adeiladu ac fel rhan o’r datblygiad wedi’i gwblhau. Gallwn eisoes ddangos bod tri phreswyliwr lleol wedi’u cyflogi fel rhan o’r gwaith dymchwel sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd.

“Hwn yw’r prosiect adfywio mwyaf cyffrous a sylweddol yn y rhanbarth, ac rydym yn falch bod y Cyngor wedi arwain ar fynd i’r afael â chyflwr adfeiliedig y safle ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid a’r sector preifat i sicrhau pennod newydd ym mywyd y safle hwn a thref y Rhyl.

“Rydym yn siŵr y bydd gan lawer o gwmnïau lleol ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r broses gaffel er mwyn adeiladu cam cyntaf y prosiect arloesol hwn.”

Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Adeiladau’r Frenhines a chynlluniau eraill sy’n rhan o brosiect Adfywio’r Rhyl, ewch i www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/adfywio/y-rhyl/adfywior-rhyl.aspx.


Cyhoeddwyd ar: 21 Ebrill 2021