Cadeirydd wedi ei ddewis ar gyfer Bwrdd Tref newydd Y Rhyl
Mae Cadeirydd wedi cael ei ddewis ar gyfer Bwrdd Tref newydd sydd wedi cael ei sefydlu i ddatblygu'r weledigaeth hirdymor ar gyfer cyllid o Gynlluniau Hirdymor ar gyfer Trefi Llywodraeth y DU.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn derbyn £20miliwn ar gyfer Y Rhyl o gronfa Cynlluniau Hirdymor ar gyfer Trefi Llywodraeth y DU. Mae’r Bwrdd Tref newydd yn ofyniad gan Lywodraeth y DU ar gyfer y cyllid, ac ar ôl iddo gael ei ffurfio, bydd yn llunio gweledigaeth 10 mlynedd ar gyfer Y Rhyl a chynllun buddsoddi tair blynedd cychwynol a fydd yn pennu beth fydd blaenoriaethau buddsoddi y dref.
Er mwyn cydymffurfio â meini prawf Llywodraeth y DU, bu’n rhaid i Gyngor Sir Ddinbych ddewis Cadeirydd a sefydlu Bwrdd Tref erbyn 1 Mehefin 2024. Mae'n ofynnol i'r Cadeirydd annibynnol fod yn berson busnes neu'n arweinydd cymunedol lleol ac ni all fod yn gynrychiolydd etholedig.
Gwahoddwyd y rhai â diddordeb yn rôl y Cadeirydd i gyflwyno CV i Gyngor Sir Ddinbych a chawsant eu cyfweld gan Gyfarwyddwr Economi a’r Amgylchedd y Cyngor, Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Grŵp Ardal Aelodau Y Rhyl. Yn dilyn y broses hon, cafodd Adam Roche ei benodi’n llwyddiannus yn Gadeirydd y Bwrdd Tref newydd.
Mae Mr Roche, a gafodd ei eni a’i fagu yn Y Rhyl, ar hyn o bryd yn Rheolwr Gyfarwyddwr gwirfoddol ar gyfer DPP y Rhyl 1879 (Clwb Pêl-droed y Rhyl) ac mae ganddo 25 mlynedd o brofiad arwain, yn fwyaf diweddar trwy ei gyflogaeth gyda’r Co-op yn cyflawni newid trawsffurfiol gwerth miliynau o bunnoedd.
Dywedodd: “Mae hi’n anrhydedd i mi gael fy newis yn Gadeirydd Bwrdd Tref newydd Y Rhyl ac rydw i’n edrych ymlaen at cychwyn a sicrhau bod y cyllid yma’n cael ei fuddsoddi yn yr ardaloedd sydd ei angen fwyaf. Fel rhywun sydd wedi byw gydol ei oes yn Y Rhyl, rydw i wrth fy modd o gael y cyfle yma i fod yn rhan o’r fenter wych a fydd yn arwain at welliannau angenrheidiol i’r dref er budd pob preswylydd.”
Fe fydd y Cyngor bellach yn gweithio gyda’r Cadeirydd newydd i gytuno ar aelodaeth Bwrdd. Bydd y bwrdd yn cynnwys arweinwyr cymunedol a chynrychiolwyr busnes, yn ogystal â'r AS lleol a chynrychiolwyr o'r Cyngor.
Y themâu y bydd y Bwrdd angen eu hystyried tra’n llunio eu cynlluniau yw ‘Diogelwch a Diogelu’, ‘Stryd Fawr, Treftadaeth ac Adfywio’ a ‘Cludiant a Chysylltedd’.
Tra bydd y Bwrdd yn gyfrifol am ddatblygu’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y cyllid hwn, Cyngor Sir Ddinbych fydd yn gyfrifol y cyllid a chyflawni’r Cynllun Tref unwaith y bydd wedi’i osod allan.
Meddai Tony Ward, Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a’r Amgylchedd Cyngor Sir Ddinbych: “Dwi wrth fy modd ein bod wedi gallu penodi Adam yn Gadeirydd Bwrdd Tref newydd Y Rhyl. Yn ogystal â’i brofiad o arwain, fe fydd ganddo wybodaeth leol helaeth a fydd yn helpu i lywio rhai o’r blaenoriaethau buddsoddi allweddol ar gyfer yr ardal. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gydag o yn ei swydd newydd i ddatblygu’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y dref.
“Mae Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi yn fuddsoddiad sylweddol i’r Rhyl sydd yn mynd i wneud gwahaniaeth enfawr i’r dref. Fe fydd Bwrdd Tref y Rhyl yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod barn pobl leol yn cael eu cynrychioli yn y cynlluniau terfynol er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio lle mae’r angen mwyaf amdano.”