Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae gwaith effeithlonrwydd ynni ar draws ysgolion Sir Ddinbych

Mae gwaith effeithlonrwydd ynni ar draws ysgolion Sir Ddinbych yn mynd i'r afael â phwysau cyllidebol drwy helpu i leihau costau.

Mae tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych wedi cyflawni ac yn gweithio ar nifer o brosiectau i helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau’r Cyngor, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o leihau allyriadau carbon a chostau ynni yn yr hirdymor.

Mae’r gwaith yn rhan o ymdrech y Cyngor i barhau i leihau ôl troed carbon y sir yn dilyn datganiad am argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn 2019.

Yn ddiweddar, bu i’r tîm Ynni gyrraedd carreg filltir o dros fegawat o gapasiti i’r ynni adnewyddadwy a osodwyd (1,099kWp). Cynhyrchir y mwyafrif o’r ynni hwn drwy baneli solar ffotofoltäig ar y to, ac mae hyn yn ddigon i roi pŵer i 364 o gartrefi.

Mae rhan o waith y tîm wedi cynnwys edrych ar adeiladau ysgolion i gynnwys dulliau arloesol o leihau'r defnydd o ynni o'r Grid Cenedlaethol, a helpu i leihau costau ynni hirdymor.

Ers i'r rhaglen waith ddechrau yn 2021 mae’r tîm wedi gweithio mewn dros 30 o ysgolion. Ariannwyd y rhaglen gan gyllideb rheoli ynni a newid yn yr hinsawdd y Cyngor, a hefyd gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Gwres Carbon Isel a'r Grant Cyllid Cyfalaf. Mae’n cefnogi gwaith cynnal a chadw cyfalaf a rheoli ynni.

Roedd y gwaith yn cynnwys cyflwyno pympiau gwres yr awyr, paneli solar ffotofoltäig ar doeau adeiladau, gosod goleuadau LED, gwell rheolyddion gwresogi ac uwchraddio systemau gwresogi. Roedd hefyd yn cynnwys newid ymddygiad yn ymwneud ag ynni drwy ymgysylltu â staff y safle a chyflwyno gwersi ar effeithlonrwydd ynni i’r disgyblion.

Mae Pympiau Gwres wedi eu gosod yn Ysgol Betws GG, Ysgol Tir Morfa ac Ysgol Brynhyfryd. Gallant droi un cilowat o drydan yn dri chilowat o wres.

Mae’r goleuadau LED sydd wedi’u gosod yn lleihau'r llwythi ynni o leiaf 50 y cant. Mae'r tîm hefyd wedi gweithio i ychwanegu deunydd inswleiddio i’r atig a’r waliau, yn ogystal â mesurau i atal drafftiau lle bo'n briodol i arbed costau cyfleustodau ymhellach.

Mae'r safleoedd hyn hefyd wedi cael paneli solar ffotofoltäig, goleuadau LED, rheolyddion gwresogi wedi'u haddasu a storfa batris i leihau allforion ynni solar ffotofoltaidd dros ben.

Mae lleihau’r defnydd o ynni yn yr ysgol yn lleihau’r biliau ynni hefyd. Cyfanswm yr arbedion cost cronnus a gyflawnwyd yw tua £300,000, sy’n cael ei arbed yn uniongyrchol gan yr ysgol gan nad oes rhaid iddynt dalu am yr ynni.

Nid yn unig y mae'r gwaith hwn yn creu arbediad uniongyrchol i gyllideb yr ysgol, ond mae hefyd yn lleihau allyriadau carbon o bob safle - sy’n arbed cyfanswm o 533 tunnell yn yr ysgolion lle cwblhawyd y gwaith.

Meddai Robert Jones, y Prif Reolwr Ynni: “Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb yn yr ysgolion rydym wedi gweithio â hwy am ein helpu i gyflawni’r gwaith pwysig hwn i helpu i leihau allyriadau carbon a gwella effeithlonrwydd yni ar draws portffolio adeiladau ysgolion y Cyngor.

“Dyma swm sylweddol o waith a fydd hefyd yn cefnogi’r nod o leihau costau defnydd ynni hirdymor i’r ysgolion. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio mewn safleoedd addysgol eraill ar draws y sir i’w cynorthwyo.”

Meddai Helen Vaughan-Evans, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol - Perfformiad, Digidol ac Asedau: “Rydym yn gwybod bod pwysau ar ein safleoedd addysgol a bydd y gwaith hwn sydd wedi’i wneud ers 2021 gan y tîm Ynni yn helpu’r ysgolion a gymerodd ran i barhau i leihau’r defnydd o ynni a chostau dros yr hirdymor.

“Mae’r tîm Ynni yn parhau i weithio gyda mwy o ysgolion ar draws y sir i’w cynorthwyo a’u cynghori ar sut i leihau’r defnydd o ynni ac arbed costau hirdymor. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau mwy arloesol yn y safleoedd hyn.”

 


Cyhoeddwyd ar: 24 Ebrill 2024