Cymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr

Gallwch ddweud eich barn am faterion tai yn Sir Ddinbych drwy ymuno â chymdeithas tenantiaid a phreswylwyr.

Beth mae cymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr yn ei wneud?

Grwpiau o breswylwyr lleol a thenantiaid i’r cyngor yw cymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr sy’n darparu cymorth a chyngor ar faterion cymunedol yn eu hardal. Maent yn gweithio gyda’i gilydd i gynrychioli buddiannau’r preswylwyr ar faterion yn ymwneud â thai, yr amgylchedd a bywyd cymunedol.

Rydym yn ymgynghori â'r cymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr ynglŷn â materion sy’n debygol o gael effaith arnoch chi, megis newidiadau mawr i bolisi tai neu newidiadau sylweddol sy'n effeithio ar eich eiddo yn uniongyrchol.

Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych (DTARF)

Mudiad sy’n dod â holl gymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr y sir ynghyd yw’r Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr (DTARF). Gall hefyd roi cymorth a chefnogaeth i chi sefydlu cymdeithas newydd yn eich ardal.

Sut y gallaf i gymryd rhan?

Y ffordd orau o gymryd rhan yw mynd i un o gyfarfodydd eich cymdeithas tenantiaid a phreswylwyr lleol. Cysylltwch â'ch cymdeithas leol i gael gwybod pryd ac ymhle y cynhelir y cyfarfodydd:

Cymdeithasau tenantiaid a thrigolion

Cymdeithasau Tenantiaid a Thrigolion

  • Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych (DTARF)
  • Cymdeithas Marsh, y Rhyl
  • War Memorial Court, y Rhyl
  • Cymdeithas Maes Emlyn, y Rhyl
  • Llys Y Felin, Llanwelwy
  • Trem Y Foel, Rhuthun
Canolfannau adnoddau

Canolfannau Adnoddau

  • Canolfan Phoenix, y Rhyl
  • Canolfan Maes Emlyn, y Rhyl
  • Pengwern, Llangollen
  • Maes Esgob, Dyserth
  • Llys Y Felin, Llanwelwy
  • Cysgodfa, Dinbych
  • Trem Y Foel, Rhuthun
  • Llygadog, Corwen

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein grwpiau, sut i sefydlu’ch grŵp eich hun neu grŵp mewn canolfan adnoddau, cysylltwch ag aelod o’n tîm Datblygu Cymunedol (gwefan allanol) neu ffoniwch 01824 706000.

Os nad oes cymdeithas tenantiaid a phreswylwyr yn eich ardal chi eisoes, gallwch sefydlu un newydd. Mae pum cam er mwyn creu grŵp newydd: 

  • Mae’n rhaid i chi agor yr aelodaeth i’r holl denantiaid a'r preswylwyr yn eich ardal benodedig. 
  • Mae'n rhaid i chi gynnal cyfarfod agored a bod â phroses ddemocrataidd er mwyn ethol pwyllgor i redeg y sefydliad gan gynnwys cadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd. 
  • Mae’n rhaid cadw cofnodion ariannol priodol y gellir eu harchwilio pe bai angen. 
  • Mae’n rhaid pasio cyfansoddiad a fydd yn penderfynu sut y bydd eich cymdeithas yn cael ei rhedeg. Gallwn ddarparu cyfansoddiad enghreifftiol i’ch cynorthwyo. 
  • Mae'n rhaid i chi wahodd swyddog dynodedig o'r cyngor i un o’r cyfarfodydd i gadarnhau'r uchod.

Mae nifer o ddulliau eraill o ddweud eich barn am faterion tai, gan gynnwys: 

  • Fforymau preswylwyr:  fforymau ble y gellir trafod materion gyda phreswylwyr lleol
  • Grŵp Polisi a Pherfformiad:  edrych ar bolisïau newydd ac adolygu’r rhai cyfredol i wella perfformiad y tîm tai.
  • Is-grŵp Atgyweiriadau:  monitro ac adolygu'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y tîm atgyweiriadau. 
  • Is-grŵp Gwelliannau:  monitro ac adolygu rhaglen adnewyddu ein stoc tai, gan gynnwys dewis contractwyr 
  • Is-grŵp Gwelliannau Amgylcheddol:  monitro a blaenoriaethu rhaglen welliannau amgylcheddol Safon Ansawdd Tai Cymru 
  • Is-grŵp Tai Gwarchod:  monitro ac adolygu'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y tîm tai gwarchod. 
  • Siopwyr Cudd:  sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cwsmer da drwy ffonio unrhyw ran o’n hadran ac arolygu ein gwasanaethau 
  • Tenantiaid-arolygwyr:  cysgodi swyddogion y cyngor a dadansoddi’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu 

Am fwy o wybodaeth am y rhain ac am ddulliau eraill o gymryd rhan, cysylltwch â ni.