Gofyn am driniaeth rheoli plâu mewn tŷ cyngor

Byddwn yn trin y plâu canlynol y tu mewn i dai cyngor yn rhad ac am ddim:

  • llygod mawr
  • llygod
  • chwain
  • chwilod duon
  • llau gwely

Fe allwch dderbyn cyngor ar sut i ddelio â phlâu eraill y tu allan i'ch cartref gan Gymdeithas Rheoli Plâu Prydain (gwefan allanol). Mae'r cyngor hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Byddwn ond yn cynnal un cwrs o driniaeth. Os yw'r broblem yn dychwelyd ar ôl i ni drin y pla, y tenant fydd yn gyfrifol am drin y pla eto.

Efallai y bydd rhaid i chi dalu tâl os yw eich gweithredoedd wedi achosi'r pla.

Noder, os byddwch yn methu â chadw apwyntiad, byddwn yn atal y driniaeth a byddwch yn gyfrifol am wneud eich trefniadau rheoli plâu hun ar eich traul eich hun.

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.