Cofrestr Genedlaethol ar gyfer safleoedd ac ymarferwyr 

Bydd y gofrestr genedlaethol ar gyfer eiddo ac ymarferwyr ar gael i’r cyhoedd ei gweld ar Gofrestr Gyhoeddus Gweithdrefnau Arbennig Cymru.

Gweld y Gofrestr Gyhoeddus Gweithdrefnau Arbennig Cymru (gwefan allanol)

Trwyddedau pontio

Mae cyfnod pontio o 9 mis (o ddydd Gwener 29 Tachwedd 2024) ble gall busnesau sydd wedi cofrestru o dan y broses gofrestru flaenorol barhau i weithredu, wrth iddynt ymgeisio am drwydded triniaethau arbennig a/neu dystysgrif safle/cerbyd cymeradwy. 

Ni fydd busnesau sydd â thrwyddedau pontio yn ymddangos ar y Gofrestr Gyhoeddus Cymru Triniaethau Arbennig nes bod eu trwydded neu dystysgrif newydd wedi eu cymeradwyo.