Tai Aml-feddiannaeth

Tŷ aml-feddiannaeth yw eiddo a gaiff ei rentu i o leiaf tri o bobl nad ydynt o’r un 'aelwyd' (e.e. teulu).

Cynllun Trwyddedu Ychwanegol (Tai Amlfeddiannaeth) Cyngor Sir Ddinbych 2025

Ar 21ain Hydref 2025, cymeradwyodd y Cabinet Gynllun Trwyddedu Ychwanegol (Tai Amlfeddiannaeth) Cyngor Sir Ddinbych 2025.

Mae ardaloedd Y Rhyl, Llangollen, a Phrestatyn wedi ei hail-ddynodi ar gyfer Trwyddedu Ychwanegol Tai Amlfeddiannaeth ac mae’r cynllun hefyd wedi ei ymestyn drwy gydol y Sir.

Bydd y cynllun yn cychwyn ar 1af Chwefror 2026 ac yn rhedeg am uchafswm o bum mlynedd, tan 31ain Ionawr 2031.

Gall gopi o’r hysbysiad cyhoeddus sy’n cadarnhau’r dynodiadau ei ddarganfod yma:

Tai Amlfeddiannaeth Adeddf Tai 2004: Rhybudd Cyhoeddus am y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol (PDF, 135KB)

Mae gwahanol fathau o eiddo dai aml-feddiannaeth: y rhai sy'n rhannu cyfleusterau fel yr ystafell ymolchi a'r gegin; fflatiau hunangynhaliol, a'r rhai sy'n cynnwys cymysgedd o unedau a rennir ac unedau hunangynhaliol.

Rhaid i dai aml-feddiannaeth sy'n dod o dan y Cynllun Trwyddedu Gorfodol fod â thrwydded: 

  • os oes ganddynt dri llawr neu fwy, AC 
  • os oes pum tenant neu fwy yn byw ynddynt, AC 
  • os ydynt yn llunio mwy nag un aelwyd 
  • gyda chyfleusterau a rennir neu hebddynt (ystafell ymolchi a chegin)

Dan ein Cynllun Trwyddedu Ychwanegol, rhaid i eiddo tai amlfeddiannaeth fod â thrwydded:

  • os oes tri thenant neu fwy yn byw yno, AC 
  • os ydynt yn llunio mwy nag un aelwyd, gyda chyfleusterau a rennir neu hebddynt (ystafell ymolchi a chegin)
  • os ydynt yn llunio mwy nag un aelwyd cwbl hunangynhaliol, ond nad ydynt yn bodloni Rheoliadau Adeiladu 1991, A lle mae llai na dau draean o’r fflatiau hunangynhaliol yn cael eu meddiannu gan y perchennog.

Sut i wneud cais am drwydded tŷ aml-feddiannaeth

Cyfrifoldeb y landlord neu reolwr yr eiddo yw gwneud cais am drwydded tŷ aml-feddiannaeth.

Cyn i chi gwblhau’r cais, darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd hyn. 

Trwyddedau Tai Aml-feddiannaeth nodiadau cyfarwyddyd (PDF, 331KB)

I wneud cais am drwydded tŷ aml-feddiannaeth, llenwch y ffurflen hon a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Ffurflen gais trwydded Tai Aml-feddiannaeth (PDF, 670KB)

Sylwch fod y ffurflen gais a'r nodiadau cyfarwyddyd ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.  Bydd fersiynau Cymraeg ar gael yn fuan.

Mae trwydded tŷ aml-feddiannaeth yn ddilys am hyd at 5 mlynedd. Bydd angen i chi wneud cais am drwydded newydd ar ddiwedd y cyfnod hwn.

Faint mae'n ei gostio?

Mae trwyddedau yn para am 5 mlynedd ac mae’r costau yn seiliedig ar nifer y lloriau sydd yn yr adeilad a nifer yr ystafelloedd y gellir byw ynddynt. Byddai ystafell y gellir byw ynddi yn fflat un ystafell, ystafell fyw ar wahân neu ystafell wely.

Mae ffi sylfaenol o £890 yn cael ei chyfrifo ar gyfer 5 ystafell y gellir byw ynddynt mewn adeilad gyda 3 neu fwy o loriau.

Mae ffi ychwanegol o £35 ar gyfer pob ystafell y gellir byw ynddi ar gyfer eiddo sydd â rhwng 6 a 10 o ystafelloedd y gellir byw ynddynt. 

Ar gyfer eiddo gydag 11 neu fwy o ystafelloedd y gellir byw ynddynt, mae ffi ychwanegol o £40 ar gyfer ystafell rhif 11 y gellir byw ynddi a thu hwnt.

I grynhoi, y ffioedd arfaethedig ar gyfer trwyddedu tai amlfeddiannaeth yw:

Ffioedd trwyddedu tai amlfeddiannaeth am 5 mlynedd yn seiliedig ar nifer ystafelloedd y gellir byw ynddynt yn yr adeilad a nifer y lloriau.
Nifer yr ystafelloedd3 llawr 2 lawr Unllawr 
4 neu lai £855 £655 £455
5 £890 £690 £490
6 £925 £725 £525
7 £960 £760 £560
8 £995 £795 £595
9 £1,030 £830 £630
10 £1,065 £865 £665
11 £1,100 £900 £700
12 £1,135 £935 £735
13 £1,170 £970 £770
14 £1,205 £1,005 £805
15 £1,240 £1,040 £840
16 £1,275 £1,075 £875
17 £1,310 £1,110 £910
18 £1,345 £1,145 £945
19 £1,380 £1,180 £980
20 £1,415 £1,215 £1,015

Enghraifft o ddadansoddiad o gostau 

Eiddo 3 llawr gyda 5 ystafell y gellir byw ynddi gyda ffi o £890 dros bum mlynedd yn costio:

  • £178 am 5 mlynedd fesul ystafell y gellir byw ynddi
  • £35.60 y flwyddyn fesul ystafell y gellir byw ynddi
  • 68.5 ceiniog yr wythnos ar gyfer pob ystafell y gellir byw ynddi 

Gostyngiadau ychwanegol sydd ar gael wrth gyflwyno’r cais cychwynnol

Fe gewch chi ostyngiad o £200 os byddwch chi’n cyflwyno’r cais llawn o fewn 8 wythnos i gael eich hysbysu am y gofyniad trwyddedu. Mae hyn yn berthnasol i Geisiadau Newydd a Cheisiadau i Adnewyddu.

Dim ond 50% o’r ffi wreiddiol y mae angen i sefydliadau elusennol ei dalu.

Os yw Tŷ Amlfeddiannaeth yn cael ei weithredu heb y caniatâd cynllunio gofynnol, dim ond blwyddyn o drwydded Tai Amlfeddiannaeth fyddwn ni’n ei roi, yn hytrach na 5 mlynedd. Bydd cost trwydded blwyddyn yn 75% o'r swm a ddangosir yn y Tabl Ffioedd Tai Amlfeddiannaeth.

Newid perchnogaeth tŷ amlfeddiannaeth

Nid oes modd trosglwyddo trwydded o un person i'r llall nac o un eiddo i un arall ac nid yw'r ffioedd yn ad-daladwy. Os gwerthwyd yr eiddo fel Tŷ Amlfeddiannaeth, bydd angen i’r landlord newydd wneud cais am drwydded newydd, bydd strwythur y ffioedd yr un fath mewn amgylchiadau o’r fath.

Dulliau Talu

Gallwch dalu’n llawn wrth wneud cais, neu mewn dau randaliad:

  • rhandaliad 1: 50% o’r ffi yn daladwy wrth gyflwyno’r cais 
  • rhandaliad 2: y 50% sy’n weddill yn daladwy ar ôl cymeradwyo Trwydded Eiddo

Enghreifftiau o sut y cyfrifir y ffioedd

Dyma enghreifftiau o sut mae’r ffioedd Tai Amlfeddiannaeth yn cael eu cyfrifo:

  1. Cais ar gyfer eiddo 3 llawr gyda 5 ystafell y gellir byw ynddynt:
    • Ffi trwydded pum mlynedd: £890
    • Gostyngiad am gyflwyno cais llawn o fewn 8 wythnos i’r hysbysiad: £200
    • Cyfanswm y ffi sy’n daladwy: £690
  2. Cais gan sefydliad elusennol ar gyfer eiddo 3 llawr gydag 20 o ystafelloedd y gellir byw ynddynt:
    • Ffi trwydded pum mlynedd: £1,415
    • 50% o ostyngiad ar gyfer sefydliadau elusennol: £707.50
    • Cyfanswm y ffi sy’n daladwy: £707.50
  3. Cais ar gyfer eiddo 2 lawr gyda 9 ystafell y gellir byw ynddynt, ond heb y Caniatâd Cynllunio gofynnol i weithredu fel Tŷ Amlfeddiannaeth
    • Trwydded blwyddyn yn unig: £830 ar 75% o’r gost lawn = £622.50
    • Gostyngiad am gyflwyno cais llawn o fewn 8 wythnos i’r hysbysiad: £200
    • Cyfanswm y ffi sy’n daladwy: £442.50

Sut i dalu

Dros y ffôn

Mae modd talu dros y ffôn gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd drwy gysylltu â’r adran Gyllid ar 01824 706417. Dyfynnwch 3479-40142 (Trwydded Ychwanegol), neu 3479-40091 (Trwydded Ofynnol) a chyfeiriad yr eiddo.

Trosglwyddiad BACS

Gellir talu drwy drosglwyddiad BACS drwy ddefnyddio’r manylion canlynol:

  • Rhif y Cyfrif: 22837469
  • Cod Didoli: 54-41-06

I sicrhau bod y taliad yn cyrraedd ein cyfrif, mae’n rhaid i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol yn y blwch cyfeirnod BACS:

  • Cod cost - 3479-40142 (Trwydded Ychwanegol), neu 3479-40091 (Trwydded Ofynnol)
  • Cod post

Er enghraifft, byddai'r cyfeirnod ar gyfer Trwydded Ofynnol ar gyfer Tŷ Amlfeddiannaeth yn 26 Fox Street, y Rhyl, LL18 1ZP fel a ganlyn:

3479-40142 LL181ZP

Rhowch wybod i ni pan fyddwch wedi talu drwy ffonio 01824 706389 neu anfonwch e-bost at envhealth@denbighshire.gov.uk.

Safonau Tai Aml-feddiannaeth

Ein Tîm Gorfodaeth Tai sy’n gyfrifol am orfodi safonau Tai Amlfeddiannaeth, felly os ydych chi’n byw mewn llety o’r fath ac o’r farn bod peryglon afresymol nad ydi eich landlord preifat yn ymdrin â nhw, rhowch wybod i ni.

Cofrestr tai aml-feddiannaeth

Rydyn ni’n cadw cofrestr o’r holl eiddo yn Sir Ddinbych wedi eu rhestru fel tai 
aml-feddiannaeth.

Cofrestr trwyddedu Tai Aml-feddiannaeth (PDF, 86KB)

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am eiddo a drwyddedwyd, neu eiddo rydych chi’n teimlo y dylai gael ei gofrestru a'i drwyddedu ond sydd heb, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Dogfennau cysylltiedig

Safonau Gofynnol Trwyddedu ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth (PDF, 671KB)